Byddwch yn un o Noddwyr Heneb
Mae cynllun Noddwyr Heneb yn dod â phobl sy’n frwd dros archaeoleg yng Nghymru at ei gilydd i ddiogelu ein trysorau archaeolegol a sicrhau bod straeon ein hynafiaid yn parhau i ysbrydoli ac addysgu cenedlaethau’r dyfodol.
Mae rhoddion gan Noddwyr yn ein galluogi i ddarparu arian cyfatebol ar gyfer ceisiadau am grantiau, ac maen nhw’n ffynhonnell incwm hyblyg sy’n ein helpu i addasu i’r cyd-destun cyllido sy’n newid yn barhaus ar gyfer elusennau fel ein un ni.
Os ydych chi’n frwd dros archaeoleg, a dros stori Cymru, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu chi fel Noddwr. Mae’r buddion yn cynnwys:
Pam Dod yn Noddwr?
Mae pob cyfraniad yn cefnogi ein cenhadaeth i gadw, ymgysylltu ac addysgu. Mae eich cefnogaeth yn ein helpu ni i:
Mae bod yn noddwr yn costio £250 y flwyddyn (neu £400 i ddau berson sy’n byw yn yr un cyfeiriad). Gallwch chi hefyd roi cyfraniad ychwanegol os hoffech chi – byddem yn ddiolchgar iawn.

Cysylltwch â Ni
Os hoffech chi wybod mwy am sut mae bod yn un o Noddwyr Heneb yn gallu cefnogi’r gwaith o warchod archaeoleg Cymru, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â’n tîm.
Ein Noddwyr
Dewch yn Noddwr Yma
Byddwch yn cael eich tywys i’n porth talu diogel i gwblhau eich trafodiad.