Oriel Gymunedol
Rhannwch Eich Lluniau â Heneb!
Pam?
- Dysgu gan bobl eraill: Dyma gyfle i glywed am safleoedd newydd ac i gael eich ysbrydoli i grwydro.
- Helpu Ymchwilwyr: Gall eich llun chi helpu archaeolegwyr i ganfod safleoedd nad ydynt wedi’u cofnodi o’r blaen.
- Dathlu Chwilfrydedd: Does dim angen i chi fod yn arbenigwr i gymryd diddordeb yn y gorffennol. Mae syniadau pawb yn bwysig.
- Monitro archaeoleg sydd mewn perygl: Drwy gymharu lluniau o’r un safleoedd, bydd modd i ni fonitro nodweddion archaeolegol bregus.
- Rhoi sylw i’ch antur chi: Mae Heneb yn awyddus iawn i gynnwys eich lluniau yn ein cylchlythyr ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ydych chi eisiau cymryd rhan? Mae’n syml
Dewiswch eich llun
Uwchlwythwch y llun i’r blwch isod.
1. Rhowch eich enw.
2. Rhowch eich cyfeiriad e-bost.
3. Ychwanegwch eich llun.
4. Ychwanegwch ddisgrifiad byr o’ch llun a ble y cafodd ei gymryd ( (Grid Reference, what3words, or county).
5. Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr er mwyn gweld a fydd eich llun yn cael eu cynnwys!
Rhannu’n Gyfrifol. Parchu a gofalu.
Nod yr oriel gymunedol yw cael hwyl a dysgu am safleoedd archaeolegol Cymru mewn ffordd ddiogel a pharchus.
- Peidiwch â tharfu ar safleoedd archaeolegol. Mae croeso i chi dynnu lluniau, ond gadewch y safleoedd fel yr oeddent pan gyrhaeddoch chi.
- Parchwch gyfreithiau lleol, arwyddion ac unrhyw fesurau diogelu treftadaeth sydd wedi eu rhoi ar waith.
- Cofiwch ofyn caniatâd y tirfeddiannwr.
- Peidiwch â rhannu lluniau pobl eraill. Chi ddylai fod wedi tynnu’r lluniau rydych chi’n eu rhannu. Os ydych chi’n rhannu lluniau pobl eraill, cofiwch sicrhau eich bod wedi cael caniatâd y perchennog cyn eu hychwanegu at yr oriel.
- Tynnwch luniau o safleoedd nid o bobl. Cofiwch wneud yn siŵr nad oes pobl yn eich llun.
Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer eich antur archaeolegol nesaf?
- Edrychwch ar wefan Archwilio
Canolbwyntiwch ar eich ardal chi i weld pa nodweddion archaeolegol sydd ar garreg eich drws, neu ewch i grwydro ardaloedd newydd. Mae Archwilio yn gronfa sydd â manylion miloedd o safleoedd a nodweddion archaeolegol. - Llwybrau rhad ac am ddim a straeon hynafol
Rhowch eich esgidiau cerdded ymlaen a mwynhewch un o’r teithiau cerdded hanesyddol rhad ac am ddim sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu chi i ddysgu rhagor am archaeoleg leol.-
the historic landscape – A series of self-guided walks
- Preseli Prehistoric Trail
- Mynydd Carningli – Mynydd Melyn Prehistoric Trail
Ydych chi wedi canfod rhywbeth newydd?
Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi darganfod rhywbeth gwerthfawr, cysylltwch â ni. Os ydych chi’n canfod adeilad heb ei gofnodi neu’n dod o hyd i offeryn hynafol, fe wnawn ni eich helpu i wneud cofnod swyddogol ohono.
Rhoi gwybod am Droseddau Treftadaeth
Mae pobl yn teithio o bell ac agos i weld tirwedd ac archaeoleg syfrdanol Cymru. Yn anffodus, nid pawb sy’n parchu’r nodweddion a’r safleoedd hynafol hyn. Mae pobl yn tynnu cerrig o garneddau cyn-hanesyddol, yn peintio graffiti ar waliau canoloesol, yn cynnau tân mewn cromlechi hynafol ac yn amharu ar y tir drwy gynnal gwaith heb ei awdurdodi.
Gallwch roi gwybod am droseddau treftadaeth a’u hatal rhag digwydd eto.