Neidio i'r prif gynnwys

Cafodd pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru—Gwynedd, Clwyd-Powys, Dyfed, a Morgannwg-Gwent—eu creu gan Adran yr Amgylchedd yn 1974 i roi sylw i’r pryderon cynyddol am golli olion archaeolegol. Maent yn elusennau cofrestredig a’u nod cyffredin erioed fu gwella dealltwriaeth y cyhoedd o archaeoleg. O’r cychwyn cyntaf, fe aeth yr Ymddiriedolaethau ymhellach na dim ond ymateb i fygythiadau, gan ymgymryd â rôl ragweithiol o reoli a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol. Ers dros bedwar degawd, maent wedi cydbwyso gwerthoedd craidd ag arloesedd, gan addasu i ddeddfwriaeth newydd, newid strwythurau llywodraeth, a datblygiadau mewn arferion a thechnoleg archaeolegol, gan barhau i roi addysgu’r cyhoedd wrth galon eu gwaith.

Related Projects

CLOSTIROEDD PETRYAL SYDD I’W GWELD YN NE CEREDIGION PAN DYFIR CNYDAU 2004

Ers y 1980au, mae ffotograffau o'r awyr wedi nodi dros 55 o glostiroedd yn ne Ceredigion sydd eu gweld pan dyfir cnydau, gan gynnwys grŵp nodedig o enghreifftiau… I weld

CANLLAW ARCHAEOLEG MYNYDD BETW

Gellir dod o hyd i weddillion sy’n dangos sut roedd pobl y gorffennol yn byw, ffermio, ymladd a chladdu’r meirwwedi’u gwasgaru ar draws ffriddoedd Mynydd y Betws, sydd… I weld

Ffynhonnau Sanctaidd Canoloes Cynnar ag Ộl-Canoloes yn Nghymru Gorllewinol

Mae'r prosiect hwn, a ariannwyd gan Cadw, wedi'i sefydlu i adnabod a gwerthuso ffynhonnau sanctaidd sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-canoloes yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin,… I weld