Neidio i'r prif gynnwys

Mae Abaty Dinas Basing, sydd wedi’i leoli ym Maes-glas yn Nhreffynnon, yn sefyll ar un o henebion archaeolegol pwysicaf Sir y Fflint. Mae adfeilion yr abaty, a fu unwaith yn gyfadeilad mynachaidd Sistersaidd sylweddol, wedi’u lleoli mewn dyffryn sy’n gyfoethog yn hanesyddol ac yn gartref i safleoedd canoloesol cynnar fel Ffynnon Gwenffrewi a gweddillion gweithgaredd diwydiannol y 18fed a’r 19eg ganrif, sydd bellach yn rhan o Barc Treftadaeth Dyffryn Maes-glas.

Yn 2023, comisiynwyd Heneb i gynnal ymchwiliadau archaeolegol yn yr ardaloedd o amgylch yr abaty ar ran Parc Treftadaeth Dyffryn Maes-glas a Chyngor Sir y Fflint. Y nod oedd asesu graddau’r gweithgarwch mynachaidd posib ac i benderfynu a allai unrhyw olion fodoli o hyd o fewn mannau agored yn y parc treftadaeth. Oherwydd rhai darganfyddiadau annisgwyl, esblygodd yr ymchwiliad cychwynnol hwn yn brosiect ymchwil llawer mwy, a oedd yn cwmpasu tri tymor o gloddio, ac yn fwy diweddar, cloddio prawf o fewn ardal gofrestredig yr abaty.

Ymchwiliadau 2023 (PDF adroddiad gwerthuso 2023 )

Dechreuodd yr ymchwiliadau cyntaf gyda dulliau arolygu a gynlluniwyd i ganfod a mapio gweddillion archaeolegol posib a oedd wedi’u claddu o dan y pridd. Dilynwyd hynny’n fuan gan gloddio prawf a dargedwyd a gynhaliwyd gan archaeolegwyr proffesiynol, gyda myfyrwyr lleol a gwirfoddolwyr cymunedol yn cymryd rhan.

Cyn yr ymchwiliad hwn, fe wnaethom ni ragweld canfod gweddillion a oedd yn gysylltiedig â’r abaty fel adeiladau ategol, peirianneg dŵr (nodwedd amlwg o bensaernïaeth Sistersaidd), neu fynwent hyd yn oed. Serch hynny, ar wahân i haenau o falurion adeg dymchwel yr abaty a gasglwyd ar ôl i Harri VIII ddiwygio’r eglwys, ychydig iawn o nodweddion neu arteffactau canoloesol a welwyd. Yn hytrach, archaeoleg Rufeinig yn dyddio’n ôl i ddiwedd y ganrif gyntaf a dechrau’r ail ganrif OC oedd yn dominyddu ein canfyddiadau. Cadarnhaodd hyn awgrymiadau cynharach o bresenoldeb neu ddylanwad Rhufeinig sylweddol, naill ai drwy feddiannaeth uniongyrchol neu ddefnydd helaeth o nwyddau Rhufeinig gan y boblogaeth frodorol Brydeinig.

Yn ystod ein gwerthusiad, fe wnaethom ni lwyddo i ddarganfod arteffactau o gyfnod y Rhufeiniaid o nodweddion strwythurol, gan gynnwys tyllau pyst a lloriau, a oedd yn dangos anheddiad posib yn ymestyn ar draws rhannau dwyreiniol a gorllewinol y parc treftadaeth. Yn ogystal, llwyddom i ddatgelu nodweddion eraill yn rhannol, gan gynnwys gweddillion popty mawr yn llawn cregyn gleision, a dwy ffos amddiffynnol arwyddocaol yn cynnwys cymysgedd o ddarganfyddiadau Rhufeinig, canoloesol, a chanoloesol cynnar. Tynnodd y dystiolaeth hon sylw at yr angen am ffosydd mwy i gael dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o arwyddocâd archaeolegol y safle.

Gwaith cloddio 2024. (PDF adroddiad gwaith cloddio 2024 )

Arweiniodd hyn at waith cloddio pellach o fewn y parc treftadaeth ym mis Gorffennaf 2024. Roedd y gwaith cloddio hwn yn cynnwys ffos fwy i’r de o’r abaty (mewn ardal sy’n cael ei galw’n padog), lle darganfuwyd tystiolaeth o strwythurau pren a nodwedd anarferol y cregyn gleision.

Er mwyn cysylltu ein canfyddiadau â chanfyddiadau ymchwiliad blaenorol, ar raddfa lai, a gynhaliwyd yn 2015, fe wnaethom ni hefyd agor tair ffos werthuso ychwanegol yng nghanol ardal yr amgueddfa.

Llwyddodd y gwaith cloddio mawr yn y padogau i ddatgelu llawer mwy o dyllau pyst a gylïau llawn cerrig a oedd yn gysylltiedig â strwythurau pren, aelwyd wedi’i leinio â cherrig a oedd wedi’i datgelu’n rhannol, a gwir faint y popty mawr yn llawn cregyn gleision. Roedd presenoldeb aelwyd, gylïau, a chlystyrau o dyllau pyst yn dangos ein bod mewn gwirionedd yn archwilio gweddillion anheddiad, a oedd yn debygol o fod wedi’i greu o dai crwn pren, yn seiliedig ar y platfform crwn amlwg ac aliniad crwn rhai o’r tyllau pyst. Yn ogystal, awgrymodd clwstwr y tyllau pyst fod y rhain yn perthyn i adeiladau gwahanol, gyda strwythurau newydd wedi’u hadeiladu dros weddillion rhai hŷn, gan ddangos hanes hir o breswylio.

O fewn y strwythurau hyn, fe wnaethom ni ddadorchuddio’r hyn a ystyrir yn gasgliad cymharol fawr ac amrywiol o arteffactau Rhufeinig ar gyfer Gogledd Cymru. Roedd y casgliad hwn yn cynnwys eitemau a gysylltir fel arfer â milwyr Rhufeinig, fel llestri samiaidd Galaidd a llestr gwin Sbaenaidd, sy’n anarferol iawn yng nghyd-destun anheddiad domestig, yn enwedig tŷ crwn. Ein darganfyddiad mwyaf nodedig oedd enghraifft hynod o brin a hollol gyflawn o fownt trisgel o’r Oes Haearn Diweddar, y credir ei fod yn rhan o harnais ceffyl. Mae ei gynllun yn symboleiddio’r hyn rydyn ni bellach yn ei adnabod fel diwylliant Celtaidd neu Frythonaidd a gellir ei weld nid yn unig yn logo Heneb (cyd-ddigwyddiad) ond hefyd mewn gwahanol ranbarthau o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys baner Ynys Manaw ac yng Nghernyw.

Cynhyrchodd y ffos brawf a gloddiwyd gerllaw’r ganolfan ymwelwyr ganlyniadau llwyddiannus hefyd, gan ddatgelu goroesiad rhyfeddol o fas o nodweddion strwythurol, gan gynnwys ffos ac arwynebau, yn ogystal ag amrywiaeth o arteffactau Rhufeinig cynnar.

Yn ystod y dadansoddiad ar ôl y gwaith cloddio, cawsom ddealltwriaeth well o rai o’n nodweddion llai adnabyddus, yn enwedig y popty cregyn gleision mawr. Ar ôl cloddio, darganfuom ei fod yn bopty pwll sylweddol a gynlluniwyd yn benodol i losgi cregyn gleision yn hytrach na chig, sy’n dangos defnydd mwy diwydiannol. Cawsom ddau ddyddiad radiocarbon o’r nodwedd hon, a chafwyd syndod bod y ddau o’r Oes Haearn Ganol tua 500 CC. O ystyried agosrwydd y safle at ardaloedd echdynnu plwm, ynghyd â’r symiau mawr o fwyn plwm a geir yn y priddoedd trin ar draws y safle, mae’n bosib bod y nodwedd hon yn gysylltiedig â thoddi plwm ac arian. Mae calch sydd wedi’i gynhesu (neu ocsid calsiwm), sgil-gynnyrch llosgi cregyn gleision, yn elfen hanfodol wrth brosesu mwynau plwm ac echdynnu arian.

At hynny, roedd un o’r tyllau pyst a gloddiwyd yn hollol wahanol i’r lleill, lle gwelwyd darnau o gregyn cnau cyll wedi’u llosgi. Anfonwyd y rhain i’w dyddio gyda radiocarbon, a chanfuwyd dyddiad o’r Oes Efydd Ganol unwaith eto, sy’n awgrymu y gallai fod gweithgaredd wedi bod ar y safle hwn yn dyddio’n ôl o leiaf 3,500 o flynyddoedd.

Cwestiwn diddorol arall oedd presenoldeb ffosydd amddiffynnol, a ddatgelwyd gennym i’r gogledd-orllewin o’r abaty yn 2023, ond ni allem eu cloddio mwyach. O fewn ymyl ein cloddiad yn 2024, fe wnaethom ni ddod o hyd i ffos bosib arall gydag ymyl toredig ag ochrau serth, lle gwelwyd darnau o grochenwaith canoloesol. Arweiniodd hyn at ddyfalu am gae posib o amgylch yr abaty, nad oedd ei darddiad yn hysbys, ond a allai fod yn gysylltiedig â dyddiau cynnar yr abaty, neu hyd yn oed rhywbeth a ragflaenodd yr abaty, fel Castell Dinas Basing.

Gwaith Cloddio 2025 (Adroddiad ar y gweill)

Roedd angen mwy o waith i ehangu ar lwyddiant y gwaith cloddio, felly yn 2025, fe wnaethom ni ddychwelyd gyda ffos hyd yn oed yn fwy yn y padog i ddatgelu’r nodweddion strwythurol yn llawn a’u deall yn well, gan gynnwys yr aelwyd garreg, ond hefyd i weld mwy o’r ffos bosib sy’n croesi’r safle. Ail-agorwyd ac ymestynnwyd y ffos brawf wrth ymyl y ganolfan ymwelwyr hefyd i ddeall natur y nodweddion archaeolegol bas a ddarganfuwyd yn y gorffennol yn well. Agorwyd cloddiad prawf ychwanegol i’r de o’r prif gloddiad yn y padogau i brofi’r potensial ar gyfer mwy o nodweddion strwythurol, yn ymestyn y tu hwnt i’r hyn a oedd eisoes wedi’i ddarganfod. Mae’r ymchwiliad hwn yn dal i fynd rhagddo, a disgwylir adroddiadau asesu ôl-gloddio cychwynnol erbyn mis Rhagfyr 2025 ac mae dadansoddiad pellach yn debygol o barhau i 2026.

Cadarnhaodd y prif gloddiad bresenoldeb strwythur pren sylweddol gyda gweddillion sawl un arall yn cynrychioli o leiaf dau adeilad ar wahân sydd wedi meddiannu’r ardal honno, gydag arteffactau sy’n cynnwys nwyddau Rhufeinig a fasnachwyd o statws cymharol uchel fel fflasg win gron Rufeinig. Datgelwyd yr aelwyd yn ei chyfanrwydd a phrofodd ei bod yn enghraifft sydd wedi’i chadw’n dda o’r hyn sydd fwyaf tebygol o fod yn aelwyd coginio, math o gegin gymunedol mewn tŷ crwn, ac mae’n hynod debyg i enghreifftiau sydd wedi’u hail-greu mewn parciau treftadaeth ledled y DU, gan gynnwys Castell Henllys (De Cymru) a Chanolfan Crannog yn yr Alban. Roedden ni hefyd yn gallu ychwanegu at y cyfoeth cynyddol o ddiwylliant materol, gyda dau froetsh ffibwla Rhufeinig, ffitiadau Rhufeinig addurnol, pinnau gwallt a glain.

Profodd y ffos bosib a nodwyd yn 2024 i fod yn llawer mwy na’r disgwyl, ac mae’n debygol o adlewyrchu peirianneg tirwedd fynachaidd fwy; serch hynny, rydyn ni’n gobeithio deall y nodwedd hon yn well wrth i’n proses ôl-gloddio fynd yn ei blaen i 2026.

Profodd y ffos wrth ymyl y ganolfan ymwelwyr i fod yn llwyddiannus iawn, gyda’r nodwedd flaenorol bellach yn ymddangos fel rhan o ffordd gyda ffosydd mawr ar ochr y ffordd. Yn seiliedig ar ffabrig y ffordd a llenwad isaf y ffos, mae’n ymddangos ei bod wedi tarddu yn y cyfnod Rhufeinig, ond mae wedi’i hailddefnyddio a’i haddasu yn ystod y cyfnod canoloesol, gyda’r ffos wedi’i hail-dorri. Mae potensial rhesymol i’r nodwedd hon gynrychioli’r brif Ffordd Rufeinig yng Ngogledd Cymru sy’n rhedeg o Gaer i Lanelwy, a dim ond dyfalu y gellir ei wneud ar hyn o bryd ei bod yn dilyn y ffordd dyrpeg fodern i’r gogledd. Mae’n debygol y bydd unrhyw ddefnydd parhaus o Ffordd Rufeinig Gogledd Cymru yn y cyfnod canoloesol wedi’i ddargyfeirio ar ôl i’r cyfadeilad mynachaidd gael ei sefydlu, er mwyn cynnal y preifatrwydd a’r arwahanrwydd a ffafriwyd gan fynachod Sistersaidd. Mae angen gwaith pellach i ddatblygu’r ddamcaniaeth hon, a fydd, gobeithio, yn rhan o ymchwil barhaus i’r dirwedd ehangach.

Diolchiadau

Cafodd Gwaith Cloddio Parc Treftadaeth Maes-glas ei gyllido gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chyllid ac adnoddau pellach gan Barc Treftadaeth Maes-glas, Cyngor Sir y Fflint, Datblygiad Arbour, y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy a Heneb.
Cafodd y gwaith cloddio ei gefnogi hefyd gan dîm gwych o wirfoddolwyr lleol a myfyrwyr. Roedd eu hymroddiad a’u brwdfrydedd yn allweddol i wneud y gwaith cloddio mor llwyddiannus. Cawsom ein cefnogi hefyd gan nifer o archaeolegwyr a oedd wedi ymddeol a roddodd eu blynyddoedd lawer o brofiad i’r prosiect a’n gwirfoddolwyr.

Oriel o Luniau

Rhanbarth
Cyfnod
Thema

Related Projects

CLOSTIROEDD WEDI EU HAMDDIFFYN O’R CYFNOD CYN HANES YN NE-ORLLEWIN CYMRU, 2004-05

Canfu astudiaeth ddesg a gynhaliwyd yn 2004-05 dros 1,000 o glostiroedd wedi eu hamddiffyn cynhanesyddol posibl a sicr ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'r rhain… I weld

Y Baddondy Oer ym Mharc Dinefwr, Llandeilo

Cynhaliwyd Archaeoleg Cambria cloddiad mantoliad archaeolegol ym mis Gorffennaf 2007, ar ran y Drwydded Genedlaethol yn lleoliad y baddondy oer sydd wedi'i leoli ym Mharc Ceirw ym Mharc… I weld

Arolygu a chloddio safleoedd aml-gyfnod yng Nghrugiau Cemmaes, Nanhyfer, Sir Benfro, 2009–13

Yng Nghrugiau Cemmaes, mae pedwar crug amlwg o'r Oes Efydd—rhan o fynwent ehangach o hyd at naw twmpath—yn sefyll ochr yn ochr â thystiolaeth o weithgarwch cynhanesyddol diweddarach… I weld