Fel rhan o astudiaeth Cymru gyfan o gaerau a ffyrdd Rhufeinig, a gyllidwyd gan Cadw, cynhaliwyd arolygon â theclyn mesur fflwcs magnetig (fluxgate gradiometer) yng Nghaerau Rhufeinig Trawscoed a Llanio. Cynhaliwyd y gwaith gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ar ran Archaeoleg Cambria, ac roedd yn defnyddio methodolegau sydd wedi eu profi o arolygon cynharach yng Ngwynedd, Powys a Dyfed, gan ddarparu data newydd gwerthfawr ar gymeriad a hyd a lled y safleoedd milwrol Rhufeinig pwysig hyn.
