Skip to main content

Rhwng 2006 a 2008, a 2009 a 2010, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd waith cloddio archaeolegol cyn i Lywodraeth Cymru gynnal gwaith datblygu sylweddol ar safle o’r enw Parc Cybi yng Nghaergybi.

Archwiliwyd dros 20 hectar i ddatgelu tirwedd archaeolegol. Yr uchafbwyntiau oedd olion neuadd bren Neolithig 6000 mlwydd oed a phentref o’r Oes Haearn, ond roedd nifer fawr o nodweddion eraill hynod ddiddorol hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu dadansoddiad llawn o’r data ac mae gwaith ar y gweill i greu cyhoeddiadau terfynol ynghylch y safle pwysig hwn. Mae’r tudalennau gwe hyn yn darparu porth tuag at wybodaeth ynghylch y safle a digwyddiadau cysylltiedig.

Cefndir y Prosiect

Roedd Llywodraeth Cymru wedi pennu tir i’r de o Gaergybi i’w ddatblygu fel Safle Datblygu Defnydd Cymysg i gynorthwyo yn y broses o adfywio’r ardal. Datblygwyd y safle, sy’n ymestyn dros oddeutu 40 hectar, â chyllid Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd.

Oherwydd bod cofadeiliau rhestredig, maen hir Ty Mawr, beddrod siambr Trefignath a sawl safle archaeolegol arall yn ardal, roedd potensial uchel o ganfod archaeoleg sylweddol ym Mharc Cybi.

Er mwyn archwilio hyn, cynhaliwyd rhaglen a oedd yn cynnwys asesiad desg, arolwg geoffisegol a thorri ffosydd gwerthusoYn wir, fe ddatgelodd hyn bod archaeoleg yn bresennol mewn sawl rhan o’r safle.

O ganlyniad, roedd archwiliad archaeolegol llawn yn ofynnol fel rhan o’r amodau cynllunio. Gan ymgynghori ag archaeolegydd cynllunio Ynys Môn, dyluniodd Atkins (yr ymgynghorwyr peirianneg ar gyfer y prosiect) strategaeth i sicrhau bod unrhyw olion archaeolegol na ellid eu gwarchod yn eu lle yn cael eu cloddio a’u cofnodi’n llawn.

Roedd y strategaeth yn cynnwys tynnu pridd âr yn ofalus o’r safle i amlygu olion archaeolegol claddedig. Yna, crëwyd mapiau digidol o’r nodweddion hyn, a chynhaliwyd archwiliadau graddfa fechan. Wedi hynny, roedd yn bosib creu cynlluniau ar gyfer archwiliadau manylach.

The central roundabout in Parc Cybi, newly constructed
Y gylchfan ganolog ym Mharc Cybi, newydd ei hadeiladu.

Cynhaliwyd y gwaith cloddio archaeolegol ochr yn ochr â’r gwaith gan Jones Brothers i osod seilwaith y prif safle. Ar ôl cwblhau’r gwaith archaeolegol, ailosodwyd pridd a’i ail-hau â glaswellt yn barod ar gyfer gwaith adeiladu yn y dyfodol ar leiniau penodol.

Mae gwaith datblygu wedi digwydd ar y safle ers cwblhau’r cloddiadau archaeolegol, ac mae Road King Truckstop a gwesty Premier Inn bellach yn gweithredu ym Mharc Cybi.

Ble mae’r safle?

Mae Parc Cybi yn ymestyn dros oddeutu 40 hectar o dir ar ymyl deheuol Caergybi.

Mae ar Ynys Gybi, sef ynys fechan fymryn oddi ar arfordir Ynys Môn, sef ynys llawer mwy o ran maint – oddi ar arfordir gogledd Cymru.

Mae’r dirwedd yn isel gyda phantiau corslyd a chefnau creigiog, ond mae Mynydd Twr i’r gogledd-orllewin o Gaergybi yn tremio dros Ynys Gybi. Mae Mynydd Twr yn 220m o ran uchder a gellir ei weld yn glir o’r rhan fwyaf o Barc Cybi.

Mae’r enw ‘Parc Cybi’ yn cyfeirio at Cybi Sant, a sefydlodd gymuned fynachaidd mewn hen gaer Rufeinig ar y safle lle mae eglwys blwyf Caergybi yn sefyll heddiw. Mae Caergybi ac Ynys Gybi hefyd wedi’u henwi ar ôl y Sant.

Ynys Gybi

Ynys fechan oddi ar arfordir Ynys Môn yw Ynys Gybi. Mae cyfoeth o archaeoleg yn perthyn iddi.

Yn wreiddiol, mae’n debyg y bu yno bedwar beddrod siambr, ond olion dau yn unig sydd wedi goroesi hyd heddiw. Ceir meini hirion, gan gynnwys y pâr o feini tal ym Mhenrhos Feilw, a nifer fawr o aneddiadau o’r Oes Haearn, rhai wedi’u gwarchod yn dda, megis cylchoedd cytiau Ty Mawr ger Ynys Lawd. Ar gopa Mynydd Twr, ceir bryngaer fawr a gorsaf rybuddio fechan, Rufeinig. Cododd y Rhufeiniaid gaer yn y lle rydym yn ei adnabod fel Caergybi heddiw, a defnyddiwyd hon yn yr Oesoedd Canol cynnar gan gymuned fynachaidd, yna ar gyfer yr eglwys blwyf.

Ar ddechrau’r 19eg ganrif, daeth Caergybi yn brif borthladd ar gyfer teithio i Iwerddon. Roedd teulu Stanley yn byw yn Nhy Penrhos ac ymchwiliodd W.O.Stanley i lawer o hynafbethau’r ynys.

Y Cloddiad

Rhwng mis Tachwedd 2006 a diwedd mis Mehefin 2008, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd waith cloddio ym Mharc Cybi. Cynhaliwyd cam arall o’r gwaith cloddio rhwng mis Medi 2009 a mis Chwefror 2010. Ariannwyd y gwaith cloddio gan Lywodraeth Cymru.

Rheolwyd cam cyntaf y gwaith adeiladu gan yr ymgynghorwyr peirianneg, Atkins, ar y cyd â’r cwmni adeiladu lleol, Jones Brothers. Roedd hyn yn cynnwys adeiladu ffyrdd ac elfennau eraill o’r seilwaith ar y safle.

Tynnwyd uwchbridd yn ofalus oddi ar dros 20 hectar o’r tir i ddatgelu tirwedd archaeolegol, a chynhaliwyd gwaith cloddio a chofnodi yno.

Parhawyd â’r gwaith cloddio drwy gydol y flwyddyn, drwy eira a thywydd poeth, gan dîm o archaeolegwyr proffesiynol. Ar ei anterth, roedd tîm o 40 o archaeolegwyr a oedd yn gweithio ar y safle ar sail amser llawn yn cael eu cyflogi ar gyfer y cloddiad – sef un o’r cloddiadau mwyaf yn y DU ar y pryd.

Stripio’r safle

Er mwyn datgelu’r holl archaeoleg ar y safle, tynnwyd y pridd âr cymysg ac amharedig ymaith gan ddefnyddio cloddwyr mecanyddol.

Rheolwyd y dasg hon yn ofalus, dan oruchwyliaeth archaeolegol, i sicrhau nad oedd unrhyw ddyddodion archaeolegol yn cael eu difrodi.

Archaeologist monitoring machine stripping
Archaeolegydd yn monitro gwaith stripio â pheiriant

Oherwydd bod y safle mor helaeth, roedd hon yn dasg enfawr, a defnyddiwyd nifer fawr o gloddwyr a thryciau dadlwytho i symud y pridd gwastraff.

Stripio â pheiriant gyda thryc dadlwytho yn symud pridd gwastraff

Wrth i nodweddion archaeolegol gael eu datgelu, plotiwyd eu lleoliad gan ddefnyddio theodolit gweithfan gyfansawdd a chynhaliwyd cloddiadau samplu i ganfod natur a phwysigrwydd y nodweddion.

Roedd wedyn yn bosib penderfynu faint o amser ac adnoddau fyddai eu hangen i gloddio’r nodweddion yn llawn.

Defnyddio theodolit gweithfan gyfansawdd i blotio nodweddion

Cofnodi’r safle

Pan fyddai dyddodion neu nodweddon archaeolegol yn cael eu canfod, byddent yn cael eu glanhau gan ddefnyddio naill ai drywel neu hof i sicrhau bod modd eu gweld yn glir.

Hofio

Yna, roedd yn bosib eu cloddio’n fanwl.

Cofnodwyd pob nodwedd a gloddiwyd drwy ddefnyddio cynlluniau, ffotograffiaeth a nodiadau.

Planning by hand
Cynllunio â llaw
Writing notes on a feature
Ysgrifennu nodiadau ar nodwedd
Setting up for a photograph
Gosod ar gyfer ffotograff

Cofnodwyd lleoliadau’r darganfyddiadau ac yna byddai’r darganfyddiadau’n cael eu codi a’u gosod mewn blwch neu fag yn barod i gael eu dadansoddi.

Cynllunio lleoliad pot
Lifting a Bronze Age pot
Codi pot o’r Oes Efydd

Y Darganfyddiadau

Mae Parc Cybi mor helaeth nes ei fod yn cynnwys nifer fawr o safleoedd archaeolegol sy’n perthyn i lawer iawn o gyfnodau, o’r Mesolithig i ffermydd o’r 18fed ganrif. Isod, ceir dolenni at wybodaeth ynghylch y gwahanol safleoedd. Gellir lawrlwytho crynodeb o’r darganfyddiadau YMA.

Beth yw Gwaith Ôl-gloddiad?

Wedi i gloddiad ddod i ben, dim ond hanner y prosiect sydd wedi ei gwblhau; mae’n rhaid creu cofnod parhaol o unrhyw gloddiad.

Mae cloddiad ar y raddfa hon yn cynhyrchu symiau anferth o gynlluniau, ffotograffau, nodiadau, darganfyddiadau a samplau. Mae angen prosesu, dadansoddi a deall y rhain i gyd, a’u cynnwys mewn adroddiad sy’n disgrifio beth a ddarganfuwyd.

Y cam cyntaf yw deall beth sydd gennych, a gelwir hwn y cam ‘asesu potensial’. Yn 2010, asesodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd y canlyniadau o Barc Cybi i weld a oedd potensial ar gyfer dadansoddi. Anfonwyd darganfyddiadau a samplau at arbenigwyr er mwyn iddynt asesu eu pwysigrwydd ac argymell gwaith pellach. Ysgrifennwyd disgrifiadau o bob rhan o’r safle a chrëwyd cynlluniau amlinellol o’r lluniadau safle.

Sbectromedr màs cyflym ar gyfer dyddio radiocarbon

Yna, mae’n rhaid gwneud y gwaith manwl. Bydd arbenigwyr yn dadansoddi a chatalogio darganfyddiadau, samplau’n cael eu dethol ar gyfer dyddio radiocarbon, lluniadau manwl yn cael eu cynhyrchu, a bydd y cyfan yn cael ei ddwyn ynghyd gyda dehongliadau a thrafodaethau mewn adroddiad terfynol. Ym mis Mehefin 2018, comisiynwyd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd gan Lywodraeth Cymru i ddechrau’r broses hon, sydd bellach yn gyflawn. Mae hyn wedi cynhyrchu adroddiad manwl a helaeth sy’n cynnwys yr holl waith arbenigol a gwaith dadansoddi a wnaed mewn perthynas â’r safle, sydd ar gael YMA.

Delweddau o’r astudiaeth o fflintiau a chrochenwaith

Mae adroddiad cryno y gellir ei lawrlwytho ar gael YMA. Bu arddangosfa yng Nghaergybi a bwriedir cynnal un yn Llangefni, fel bo modd i bawb weld beth sydd wedi dod i’r golwg. Mae gwaith ar droed i addasu’r adroddiad manwl yn gyhoeddiad argraffedig.

Y Darganfyddiadau

Ffermydd y 18fed ganrif

O’r terfynau cae a ddangosir ar hen fapiau ystad, a’r ffosydd gafwyd wrth gloddio, ceir awgrym fod system cae agored yn ymestyn dros o leiaf rhan o Barc Cybi yn ystod y cyfnod canoloesol. Byddai’r tir wedi ei ffermio mewn caeau mawrion oedd wedi eu rhannu’n stribedi cul heb ffensys.

Erbyn y 18fed ganrif, roedd y caeau i gyd wedi eu cau a’r tirwedd yn frith o ffermdai. Roedd llawer o’r ffermdai wedi eu gadael yn y 19eg ganrif, ond roedd pobl yn byw mewn rhai hyd at ganol yr 20fed ganrif, ac ni chwalwyd un tan 2006.

Olion llawr cerrig crynion a simne ffermdy Tyddyn Pioden. Roedd pobl yn byw ynddo yn y 19eg ganrif gynnar, ond defnyddiwyd y safle yn y 11eg – 12fed ganrif OC pan fu gwaith gof yn mynd ymlaen yma

Roedd rhai o’r ffermydd yn meddu ffynhonnau oedd yn cael eu bwydo gyda dŵr o geuffosydd tanddaearol gyda grisiau carreg yn arwain atynt. Roedd rhain yn parhau mewn defnydd yn yr 20fed ganrif

Byddai ffosydd cylchog fel hon yn creu ardal sych ar gyfer tas wair. Cafwyd hyd i hon yn ymyl safle cynharaf fferm o’r enw Trefignath, oedd efallai â dechreuad canoloesol

Aneddiad Canoloesol Cynnar

Wedi 410 OC nid oedd Prydain yn rhan o Ymerodraeth Rhufain, a’r enw roddir gan archaeolegwyr ar y cyfnod hwn wedi’r Rhufeiniaid yw “y cyfnod canoloesol cynnar”. Er bod sawl mynwent o’r cyfnod hwn wedi ei darganfod, mae’n annodd canfod ble roedd y bobl yn byw. Mae’n bur debyg na wnaeth y rhan fwyaf o dai’r cyfnod hwn adael llawer o olion archaeolegol. Serch hynny, rydym yn gwybod bod pobl wedi byw ym Mharc Cybi wedi diwedd rheolaeth Rhufeinig oherwydd darganfuwyd eu sychwyr grawn.

Roedd rhaid sychu grawn, yn enwedig ceirch, cyn ei ddefnyddio neu ei storio. Pydewau gyda thân yn un pen oedd sychwyr grawn – yn y pen arall byddai’r grawn yn cael ei hongian i sychu ar frigau wedi eu gorchuddio â gwellt. Yn bur aml byddai’r grawn yn mynd ar dân ac yn deifio – buddiol iawn i archaeolegwyr gan fod y gronynnau deifiedig yn goroesi a gellir ei astudio a sicrhau dyddio radiocarbon.

Cafwyd chwe sychwr grawn ym Mharc Cybi, a’r cyfan yn dyddio i’r 5ed neu’r 6ed ganrif OC.

Mynwent Rufeinig Hwyr

Y Rhufeiniaid gyflwynodd Cristnogaeth i Gymru, yn ogystal â chladdedigaethau mewn beddau o hyd llawn wedi eu leinio â charreg (cistiau hirion). Nid oedd Prydain yn rhan o Ymerodraeth Rhufain ar ôl 410 OC, ond bu parhad yn y grefydd a’r arferion claddu newydd.

Mae’r rhan fwyaf o’r mynwentydd cist hir yng ngorllewin Cymru yn dyddio o’r cyfnod yn dilyn diwedd Ymerodraeth Rufeinig ym Mhrydain (y cyfnod canoloesol cynnar), ond mae’n debyg fod mynwent fechan o feddau cist hir gafwyd ym Mharc Cybi yn dyddio o’r cyfnod Rhufeinig hwyr. Cafodd ei defnyddio gan y brodorion lleol sydd yn awgrymu eu bod hwy wedi mabwysiadu arferion Rhufeinig.

Roedd gof wedi gosod ei engan ar floc a hwnnw wedi ei wthio i dwll gloddiwyd mewn bedd. Dengys yr aflonyddu yma fod defnydd o’r fynwent wedi dod i ben erbyn i’r gof ddechrau gweithio. Trwy ddyddio radiocarbon rydym yn gwybod bod gwaith gof yn digwydd o’r 4 ydd i’r 5 ed ganrif OC, felly mae’n rhaid fod y fynwent yn perthyn i gyfnod cynharach. Gan nad oes llawer o esgyrn wedi goroesi nid ydym wedi gallu dyddio’r fynwent yn uniongyrchol.

Mynwent cist hir Parc Cybi

Y twll, wedi ei bacio â slabiau cist wedi eu hail-ddefnyddio – roedd y gof wedi gosod ei engan yn hwn

Bedd cist hir gyda’r ysgerbwd oedd wedi goroesi orau gafwyd ym Mharc Cybi, ond roedd hyd yn oed hwn yn ddarniog iawn.

Diwydiant y Cyfnod Rhufeinig

Gerllaw llwybr, oedd mae’n debyg yn arwain tua’r gaer Rufeinig hwyr yn yr hyn a adnabyddwn bellach fel Caergybi, roedd fferm frodorol oedd yn brysur yn cynhyrchu pethau ac yn storio nwyddau – efallai i’w cyfnewid gyda’r milwyr Rhufeinig.

Mewn adeilad â muriau clai roedd aelwyd o gerrig mawrion, efallai i ddal padell neu bowlen ar gyfer lliwio brethyn. Nesaf ati roedd powlen garreg, wedi ei gosod yn y llawr, ar gyfer malu rhywbeth yn fân neu gymysgu. Roedd aelwyddydd, cafnau a thyllau eraill hefyd wedi eu gwasgu i mewn i’r adeilad bychan.

Aelwyd a phowlen garreg

Ar ochr arall y llwybr roedd cyfres o dyllau pyst yn dangos ble bu adeiladau storio unwaith yn sefyll, ac nesaf atynt roedd adeilad carreg bychan sgwâr gyda phydew mawr dan ei lawr.

Tyllau pyst fyddai wedi cynnal cyfres o adeiladau o goed ar gyfer storio

Olion adeilad sgwâr o garreg. Dim ond un wal a chornel oedd wedi goroesi, ond roedd llawer o’r llawr yn aros

Tai Crynion â Muriau Clai yr Oes Haearn

Tua 150m i’r gogledd-ddwyrain o’r pentref Oes Haearn Ganol, ac mewn defnydd yr un pryd, roedd dau dŷ gyda muriau o glai. Ychydig iawn o’r muriau sydd wedi goroesi, ond roedd modd adnabod y tai oherwydd y traeniau wedi eu leinio â charreg oddi mewn iddynt.

Roedd gan un tŷ draen a siâp marc cwestiwn iddi, gyda thwll yn un pen a’r pen arall yn arwain allan o’r adeilad. Roedd aelwyd yn y tŷ hwn, ond fawr ddim nodweddion eraill.

Roedd gan y ty arall gymhlethfa o draeniau, rhai’n rhedeg i’w gilydd, ac roedd y prif draen gyda phydew yn un pen wedi ei lenwi gyda slabiau carreg – rhai ohonynt gyda thyllau ynddynt. Roedd cynnwys y draen yn gyfoethog mewn haearn ocsid oedd efallai’n hannu o ba bynnag sylwedd fu’n rhedeg yn y traeniau.

Roedd llawr y tŷ wedi ei orchuddio gyda haen o siarcol a hwnnw’n cynnwys gwellt gwenith deifiedig a mân us. Ymddengys mai canlyniad y to’n llosgi ac yn syrthio i mewn i’r ty oedd hyn, ac mae’n dangos bod gwellt yn cael ei ddefnyddio i doi’r tai.

Roedd y ddau dŷ’n rhy agos at ei gilydd iddynt fod wedi eu defnyddio’r un pryd, ac felly mae’n rhaid iddynt gael eu defnyddio’n ddilyniannol, ond roedd peipen carthffosiaeth wedi dinistro unrhyw dystiolaeth o ba un a ddefnyddiwyd gyntaf.

Pentref yr Oes Haearn

Yng nghanol Parc Cybi roedd olion pentref a ddefnyddiwyd yn yr Oes Haearn Ganol rhwng 400 i 200 CC. Roedd hyd at dri t y yn agos at ei gilydd ynddo gyda phedwerydd ychydig bellter oddi wrthynt, yn ogystal ag adeiladau eraill gan gynnwys ysguboriau.

Roedd y tai yn grwn, wedi eu hadeiladu o garreg, a byddai toeau conigol o wellt arnynt. Roedd cyntedd trawiadol gan un o’r tai, gyda llwybr â chlawdd yn arwain ato. Efallai mai tŷ pennaeth y pentref oedd hwn, a byddai wedi ei ddylunio i wneud argraff ddofn ar ymwelwyr.

Byddai tasgau cartref, fel nyddu a pharatoi bwyd, yn digwydd yn y pentref, ond roedd ei gynllun yn awgrymu materion llai ymarferol; mae’r prif ddrysau’n wynebu Mynydd Caergybi, ar waetha’r ffaith fod gwyntoedd y gaeaf yn chwythu o’r cyfeiriad hwnnw.

Pentref yr Oes Haearn fel y gallai fod wedi ymddangos, wedi ei ddarlunio gan Helen Flook
Hawlfraint: Helen Flook

Maen Hir Tŷ Mawr

Saif Maen Hir Tŷ Mawr yng nghanol Parc Cybi ond, gan ei fod yn heneb rhestredig ac wedi ei ddiogelu, mae’r datblygiad wedi ei gynllunio i osgoi’r garreg a gadael llain o’i gwmpas fel bo modd gwerthfawrogi’r lleoliad.

Gan hynny ni fu cloddio yn ymyl y garreg. Credir fod meini hirion o’r math yma’n dyddio o’r Oes Efydd, a dangosodd y cloddiad fod y garreg hon nepell oddi wrth grŵp o henebion seremonïol Oes Efydd, ac efallai ei bod yn atodiad i’r tirwedd seremonï ol hwnnw.

O’r garreg, mae’n bosib gweld y beddrod siambrog Neolithig ar y gorwel, ac efallai fod hyn wedi bod yn fwriadol gyda’r garreg yn cysylltu henebion claddu’r Oes Efydd gyda’r beddrod hynafol ar y bryn.

Mae llwybr troed yn sicrhau mynediad at y garreg, ac erys modd i’r cyhoedd ymweld â ‘r heneb hwn ac ystyried ei leoliad.

Henebion yr Oes Efydd

Gerllaw y fynwent cist roedd dau heneb arall yr Oes Efydd. Mae’n debyg fod tomen gladdu arall wedi ei hychwanegu’n hwyrach yn yr Oes Efydd. Er nad oedd y domen yn parhau mewn bodolaeth, roedd wedi ei nodi gan ffos gylchog, ac o’r ffos hon y cloddiwyd y pridd ar gyfer y domen. Yn ddiweddarach yn yr Oes Efydd, daeth corfflosgiadau’n fwy cyffredin, ac mae’n bur debyg fod y domen hon wedi cynnwys gweddillion corfflosgiad mewn un ai yrnau neu gistiau bychain. Ond mae’n bur debyg fod rhain wedi eu gosod oddi mewn i’r domen a wastadwyd, ac ni chafwyd unrhyw argoel o gladdedigaethau na chrochenwaith.

Ffos gron yn diffinio lleoliad crug Oes Efydd

Rhwng y ddau heneb yma, roedd nodwedd ffosiog rhyfedd. Ymddengys fod hon wedi cychwyn fel ffos gylchog, yna mewnlenwyd rhan ohoni cyn ail-gloddio gweddill y ffos i ffurfio lloc mwy siâp D. Dangosodd crochenwaith a dyddio radiocarbon mai lloc yr Oes Efydd oedd hwn, ond nid ydym yn gwybod beth oedd ei swyddogaeth. Mae ei leoliad rhwng dwy domen gladdu yn awgrymu mai heneb seremonïol oedd hwn.

Ambell nodwedd ffos siap D

300m i’r gogledd-ddwyrain o’r henebion hyn roedd tomen gladdu arall wedi ei hamgylchynu gyda ffos gylchog. Mae hon wedi ei lleoli ar lwybr presennol yr A55 a chafodd ei chloddio yn 1999 cyn adeiladu’r ffordd. Roedd y domen hon hefyd wedi ei lefelu, a dim ond y ffos sy’n goroesi. Mae’n cadarnhau presenoldeb gr w p o henebion mewn llain cymharol fychan.

Ffos Gron Tŷ Mawr gyda mynwent llawer hwyrach wedi ei thyllu drosto

Claddedigaethau Cist yr Oes Efydd

Y cistiau wedi eu cloddio’n llwyr

Yn ystod Cyfnod y Biceri (2500 i 2000 CC) cyflwynwyd traddodiadau claddu newydd gyda chladdedigaethau unigol mewn siambrau sgwâr carreg, a adnabyddir fel cistiau, yn y ddaear. Gosodwyd y corff ar ei gwrcwd, a rhoddwyd pot a elwid yn ficer ynghyd â nwyddau bedd eraill gydag ef. Parhaodd y traddodiad hwn i’r Oes Efydd Gynnar, cafwyd hyd i grŵp o’r claddedigaethau hyn ym Mharc Cybi ac mae’n debyg iddynt ddyddio i gyfnod yn fuan wedi 2000 CC.

Roedd yno bum cist fawr a thair fechan, ac felly mae’n debyg mai mynwent deulu oedd hon gyda phlant yn ogystal ag oedolion wedi eu claddu ynddi. Mae cynllun y beddi’n awgrymu eu bod wedi eu gorchuddio gydag un tomen gron, ond nid oes unrhyw argoel ohoni wedi goroesi.

Roedd dau o’r beddi’n cynnwys potiau, a byddai rhain wedi dal rhoddion o fwyd neu ddiod. Mae dadansoddiad yn dangos y bu cynnyrch llaeth yn y ddau.

Cynllun o’r fynwent cist gyda llinell doredig yn dangos braslun posib o’r twmpath

Bicer a Llestr bwyd gafwyd mewn dau o’r beddi

Twmpathau Llosg

Mae twmpathau llosg yn nodweddion cyffredin yng ngorllewin Cymru ac fel arfer maent yn dyddio o oddeutu 2500 i 1000 CC, ond mae rhai’n gynharach. Fel arfer maent yn cynnwys un neu ragor o dyllau neu gafnau i ddal dŵr a safle ar gyfer tân. Cynheswyd cerrig ar y tân cyn eu gosod yn y cafn i ferwi’r dŵr. Yna byddai’r cerrig yn cael eu taflu o gwmpas yr ardal weithio i ffurfio tomen isel. Mae’n debyg fod y dŵr poeth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer coginio, ond mae’n bosib iddo gael ei ddefnyddio at bwrpas arall, fel bragu cwrw neu liwio brethyn.

Pen saeth fflint siâp deilen gafwyd o dan y twmpath llosg bychan

Ym Mharc Cybi dim ond dau dwmpath llosg gafwyd, ond roedd tyllau eraill yn cynnwys cerrig wedi cracio oherwydd gwres ac efallai eu bod hwy’n perthyn i dwmpathau llosg.

Roedd twmpath bychan iawn yn dyddio i oddeutu 2800 CC (y cyfnod Neolithig hwyr) ac roedd pen saeth Neolithig siâp deilen oddi tano.

Roedd y twmpath arall yn llawer mwy, a chredwn iddo gael ei ail-ddefnyddio am hyd at 700 mlynedd, a hynny o fyr amser wedi 2500 CC mae’n debyg. Ni chafodd ei ddefnyddio’n barhaol ac roedd o leiaf tri chyfnod amlwg o ddefnydd. Yn bur aml caiff dwmpathau llosg eu lleoli yn ymyl ffrwd er mwyn sicrhau tarddle dŵr, ond roedd y twmpath hwn yn derbyn dŵr croyw o ffynnon.

Tyllau Neolithig

Cafwyd hyd i sawl grŵp o dyllau bach led-led Parc Cybi. Roedd rhain yn cynnwys darnau bach o grochenwaith Neolithig canol neu hwyr yn ogystal â naddion fflint, a thybid iddynt nodi lleoliad cytiau dros dro. Cafodd rhain eu defnyddio ar wahanol adegau ac am gyfnodau byr rhwng 3400 a 2400 CC mae’n debyg.

Roedd y crochenwaith gafwyd yn y tyllau o wneuthuriad amrwd, ond wedi eu haddurno’n arbennig, mewn arddulliau a adwaenir fel Crochenwaith Trebedr a Chrochenwaith Rhychiog. Gellir darganfod yr arddulliau hyn led-led Prydain ac mae’n arwydd o gysylltiadau diwylliannol ar draws y wlad, er fod y crochenwaith ei hun wedi ei gynhyrchu’n lleol.

Roedd un twll hefyd yn cynnwys pen pastwn carreg oedd efallai’n symbol o statws, er fod un pen wedi ei guro braidd sy’n awgrymu bod y pastwn wedi ei ddefnyddio at bwrpas ymarferol.

Tyllau Neolithig yn cael eu cloddio

Crochenwaith addurnedig o un grŵp o dyllau. Mae rhain o’r math Crochenwaith Trebedr a adnabyddir fel arddull Mortlake. Wedi ei ddarlunio gan Frances Lynch

Pen pastwn carreg gafwyd mewn twll Neolithig canol

Safle Anheddu dros dro Neolithig Cynnar

Mewn pant naturiol roedd llain o bridd claddedig a mymryn o f â n nodweddion oedd wedi osgoi difrod aredig. Roedd y pridd claddedig yn llawn darnau bach o bot a naddion fflint, a dangosodd rhain, yn ogystal â gwasgariad o dyllau fu’n cynnal pyst a pholion, a rhai aelwydydd sylfaenol, fod pobl wedi bod yn byw yma. Serch hynny, ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o dŷ. Cysgodfannau bach a ddefnyddiwyd ar y cyfan, felly mae’n rhaid mai preswyliaeth tymor byr oedd yma.

Dangosodd y crochenwaith a’r dyddio radiocarbon fod y pant mewn defnydd yn ystod y cyfnod Neolithig cynnar, oddeutu 3700-3600 CC, ac roedd y neuadd Neolithig mewn defnydd tua’r un cyfnod. Cafodd ei ddefnyddio rhai canrifoedd yn ddiweddarach hefyd, ac mae’n debyg i’r bobl ddychwelyd sawl gwaith i’r safle hwn.

Daeth ffermio i Brydain yn ystod y cyfnod Neolithig a dyna pryd gwnaethpwyd y crochenwaith cyntaf. Tybid yn aml fod pobl yn byw mewn aneddiadau parhaol ond mae’r safle hwn yn awgrymu bod rhai beth bynnag yn parhau i symud o gwmpas y tirwedd yn union fel y bobl Mesolithig o’u blaen.

Neuadd Neolithig Gynnar

Mae’n bur debyg mai’r safle pwysicaf gafwyd ym Mharc Cybi oedd olion adeilad Neolithig cynnar. Diffiniwyd hwn gyda thyllau pyst a slotiau sylfeini oedd wedi goroesi yn y ddaear wedi i’r goruwchadeilad ddiflanu.

Roedd yr adeilad hwn oddeutu 15m o hyd a 6m o led, a byddai wedi bod yn adeilad trawiadol y gellid efallai ei ddisgrifio fel neuadd.

Mae adeiladau fel hyn yn eithaf prin ond maent yn ymddangos led-led Prydain a’r Iwerddon gydag enghreifftiau mawr yn cael eu darganfod yn yr Alban. Defnyddiwyd neuadd Parc Cybi rhwng oddeutu 3700 a 3600 CC, sef tua cychwyn y cyfnod Neolithig.

Roedd y neuadd yn cynnwys gwasgariadau o sbwriel cartref ar ffurf darnau m â n o grochenwaith, naddion fflint a darnau asgwrn llosg; roedd hefyd breuanau cyfrwy ar gyfer malu grawn. Roedd pobl yn byw yn yr adeilad felly, ond ai cartref cyffredin oedd hwn yn unig? Roedd y neuadd wedi ei gosod i gyflinio gyda beddrod siambr Trefignath, sy’n ymddangos wedi ei ail-adeiladu i gyd-fynd â ‘r cyfliniad hwn. Mae’r cysylltiad yma rhwng y neuadd a’r beddrod yn awgrymu bod y neuadd â swyddogaeth ehangach na chartref yn unig.

Adluniad o’r neuadd Neolithig fel y gallai fod wedi ymddangos, wedi ei ddarlunio gan Helen Flook
Hawlfraint: Helen Flook

Beddrod Siambrog Trefignath

Mae Beddrod Siambrog Trefignath yn feddrod Neolithig, yng ngwarchodaeth Cadw erbyn hyn, ac ar agor i ymwelwyr. Fe’i adeiladwyd yn wreiddiol, oddeutu 3800 CC, fel siambr mewn carnedd (tomen o gerrig) fechan gron. Cafodd ei ail-adeiladu gyda charnedd hir a siambr mwy yn agor tua thoriad y wawr, ac yna cafodd ei ymestyn ac ychwanegwyd trydydd siambr.

Yn wreiddiol roedd y garnedd yn llawer uwch ond lladratwyd y cerrig i ffurfio cloddiau caeau. Mae’n bur debyg na fyddai’r beddrod wedi goroesi o gwbl oni bai i’r Arglwyddes Stanley, yn ystod y 19 eg ganrif gynnar, rwystro difrod pellach a sicrhau cadwraeth yr heneb.

Mae’r beddrod yn sefyll oddi mewn i ddatblygiad Parc Cybi. Cafodd ei gloddio’n drylwyr yn y 1970au hwyr gan Christopher Smith o’r Swyddfa Gymreig cyn cydgyfnerthu’r heneb.

Gweithgaredd Mesolithig

Wedi diwedd Oes yr Iâ olaf, ymledodd fforest tua’r gogledd ac ar draws yr hyn fu gynt yn ddiffeithleoedd rhewedig. Dychwelodd pobl i’r tir fyddai’n datblygu i fod yn Brydain. Yn ystod y cyfnod hwn, nid oedd Prydain yn ynys ond yn rhan o’r cyfandir Ewropaidd.

Roedd y bobl oedd yn byw ym Mhrydain bryd hynny, o oddeutu 9500 CC, yn byw trwy hela anifeiliaid, casglu planhigion, a physgota yn y môr a’r afonnydd. Mae’r cyfnod hwn yn cael ei adnabod gan archaeolegwyr fel y cyfnod Mesolithig.

Yn sicr, roedd pobl yn byw ar Ynys Cybi yn ystod y cyfnod Mesolithig, ond nid oedd Ynys Cybi nag Ynys Môn yn ynysoedd bryd hynny. Gellir darganfod naddion fflint Mesolithig ar Gomin Penrhosfeilw (y Maes Tanio), ble roedd pobl yn weddol agos at y môr, er fod lefelau’r môr yn llawer îs.

Microlithau o Barc Cybi wedi eu darlunio gan George Smith. Byddai nifer o’r naddion fflint bychan gofalus eu ffurfiant hyn wedi eu gosod mewn carn neu garn saeth er mwyn ffurfio cyllyll neu bennau saethau

Ym Mharc Cybi, roedd ond mân awgrymiadau o weithgaredd Mesolithig gydag ychydig o gelfi fflint nodweddiadol, yr adnabyddir fel microlithau, wedi eu gwasgaru led-led y safle. Mae dyddio radiocarbon yn awgrymu hyd yn oed fod cwt bychan efallai wedi ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod Mesolthig.

Related Projects

St Llawddog, Cilgerran, Pembrokeshire (PRN 1178)

[:en] ST LLAWDDOG, CILGERRANPEMBROKESHIRE (PRESELI) Dyfed PRN 1178  RB No. 3239  NGR SM 1906 4307  Listed Building No. 11972  Grade II* listed (1998)(2022) First listed in 1952. Last… I weld

St Illtud, Llantwyd, Pembrokeshire (PRN 17347)

[:en] ST ILLTUD,  LLANTWYD, PEMBROKESHIRE (PRESELI)  Dyfed PRN 17347  RB No. 3238  NGR SN 1554 4193 Not listed in 2022.  SUMMARY 19th century church; 0% pre-19th century core… I weld

Holy Cross, Mwnt, Ceredigion (PRN 5324)

[:en] HOLY CROSS, MWNT, CEREDIGION Dyfed PRN 5324  RB No. 2959  NGR SN 1950 5202  Listed Building no. 15874  Grade I listed (1998) First Listed in 1964. Last… I weld