Neidio i'r prif gynnwys

Gan adeiladu ar astudiaeth raddfa genedlaethol gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, cymerodd Archaeoleg Cambria rhan mewn asesiad manwl o lociau amddiffynnol cynhanesyddol yn Sir Ceredigion a Sir Benfro rhwng 2005 a 2007, gyda chymorth gan Cadw. Adolygwyd mwy na 360 o safleoedd yn Sir Benfro yn unig, yn amrywio o fryngaerau a chaerau pentir i lociau amddiffynnol llai. Er bod llawer o’r henebion mwy yn parhau mewn cyflwr sefydlog, mae rhai safleoedd gwrthgloddiau llai wedi dangos arwyddion o ddirywiaeth. Mae’r arolwg hwn yn ffurfio cam allweddol i ddeall a rheoli’r tirweddau cynhanesyddol pwysig hyn.

Related Projects

Llongau Moel Afon Leri, Ynys-las

Ar hyd sianel lanw Afon Leri ynYnys-las mae tair llong foel (hulk) -Henebion Cofrestredig y credir eu bod yn llongau cludo llechi o'r 19eg ganrif. Yno ers dirywiad… I weld

Arolygu a chloddio safleoedd aml-gyfnod yng Nghrugiau Cemmaes, Nanhyfer, Sir Benfro, 2009–13

Yng Nghrugiau Cemmaes, mae pedwar crug amlwg o'r Oes Efydd—rhan o fynwent ehangach o hyd at naw twmpath—yn sefyll ochr yn ochr â thystiolaeth o weithgarwch cynhanesyddol diweddarach… I weld

Caer Digoll

Ym 2008 prynodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys fryngaer gwych Caer Digoll, sy’n goron ar y Mynydd Hir yn nwyrain Sir Drefaldwyn, Powys. Prif nod y fenter hon oedd sicrhau… I weld