Cyddnabyddir bod gwlyptir Ceredigion yn safleoedd daearegol, ecolegol a phaleoamgylcheddol pwysig. Mae archwiliadau archaeolegol diweddar o lwybr pren a mwyndoddi metel yn Llangynfelyn wedi pwysleisio pwysigrwydd archaeolegol yr amgylcheddau hyn. Mae cynnydd yn lefel y môr, erydu parhaus ar yr arfordir a draenio’n golygu difrod parhaus i fawnog Cors Fochno, Llangynfelyn, yng ngogledd Ceredigion. Bydd y prosiect hwn, ar y cyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (sy’n rheoli llawer o Gors Fochno), perchnogion tir, ac aelodau’r gymuned leol, yn cynyddu’n gwybodaeth am archaeoleg Cors Fochno, yn asesu’r pwysau sydd arni, ac argymell camau a fydd yn helpu i’w diogelu yn y tymor hir.
Yn dilyn arolwg Cors Fochno yn 2008-09, archwiliwyd ffiniau tir gwlyb Cors Caron (Cors Tregaron) yn 2009-10 mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Yn ogystal â ffurfio mesurau i ddiogelu ymylon y gors yn yr hirdymor, archwiliwyd nifer o safleoedd yn fanwl, gan gynnwys arolwg geoffisegol o gastell canoloesol posibl yn Llwyngwinau ac arolwg geoffisegol, arolwg topograffeg a chloddio ar raddfa fach o ran maenor ganoloesol bosibl a phlasty/gerddi diweddarach.
Oriel Luniau




