Neidio i'r prif gynnwys

Er iddynt ymddangos yn ddigyfnewid, gwnaed llawer o waith adnewyddu, addasu ac atgyweirio cyson i eglwysi hanesyddol yn ystod y mil neu fwy o flynyddoedd diwethaf er mwyn diwallu anghenion a dyheadau cyfnewidiol eu cynulleidfaoedd.

Oherwydd hyn maent yn ddolen gyswllt gryf �’r gorffennol ac mae ganddynt hanes gwefreiddiol i’w adrodd am y cymunedau a’u hadeiladodd ac sy’n parhau i’w cynnal. Felly mae angen cynnal a chadw eglwysi hanesyddol a gofalu amdanynt gan barchu eu gwerth hanesyddol ac archeolegol yn ogystal �’u prif r�l fel mannau addoli Cristnogol.

Er mwyn helpu ein dealltwriaeth o eglwysi hanesyddol Cymru, noddodd Cadw: Welsh Historic Monuments y pedair ymddiriedolaeth archeolegol yng Nghymru i ymgymryd ag arolwg archeolegol o’r eglwysi hanesyddol yn chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru, gan rychwantu tua 1,000 o eglwysi a adeiladwyd naill ai cyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg neu sydd wedi eu lleoli ar safleoedd a sefydlwyd cyn yr amser hwnnw.

Mae canlyniadau’r gwaith maes a’r gwaith ymchwil hwn wedi’u cynnwys mewn cyfres o adroddiadau unigol ar eglwysi ac arolygon rhanbarthol sydd ar gael o’r ymddiriedolaethau.

Mae’r llyfryn hwn yn defnyddio’r arolwg o Gymru gyfan ac yn edrych ar yr hyn y gall archeoleg ei ddweud wrthym am hanes eglwysi Cymru, a sut y gellir cadw a rheoli’r dreftadaeth archeolegol gyfoethog hon.

Related Projects

Neolithic axes

Tirlun o Fwyeill Neolithig

Diweddariad ar ein prosiect Tirlun o Fwyeill Neolithig Ers 2019, mae’r Prosiect Tirlun o Fwyeill Neolithig (a ariannwyd gan Cadw a Chronfa Dreftadaeth y Loteri drwy Gynllun Partneriaeth… I weld

Arolwg Ymylon Gwlyptir

Cyddnabyddir bod gwlyptir Ceredigion yn safleoedd daearegol, ecolegol a phaleoamgylcheddol pwysig. Mae archwiliadau archaeolegol diweddar o lwybr pren a mwyndoddi metel yn Llangynfelyn wedi pwysleisio pwysigrwydd archaeolegol yr… I weld

Pibell Nwy Pwllheli i Flaenau Ffestiniog

Yn 2011 ailosododd Wales and West Utilities bibell nwy fawr o Bwllheli i Flaenau Ffestiniog, Gwynedd, Gogledd Cymru. Yn ogystal â bod yn brosiect peirianyddol, roedd yn ofynnol… I weld