Mae caer bentir Buckspool ar faes tanio Castell Martin yn un o nifer o gaerau pentir o’r Oes Haearn ar Arfordir Penfro sydd yn dioddef o ganlyniad i erydiad arfordirol. Mae Ymgyrch Nightingale yn fenter sy’n helpu gydag adferiad milwyr a chyn-filwyr sydd wedi’u hanafu neu sy’n sâl drwy roi cyfle iddynt gymryd rhan mewn archwiliadau archeolegol. Mae’r fenter hon, sy’n cael ei chynnal gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn rhedeg ers 2011, ac fel rhan o’r fenter mae gwaith maes wedi ei gynnal yn y DU a thramor, ac mae cannoedd o staff milwrol wedi cael cyfle i gyfrannu at brosiectau. Mae ymgais wedi bod ers sawl blwyddyn i ehangu gwaith y prosiect i Gymru, ac roedd Buckspool yn gyfle delfrydol – mae’n erydu, mae mewn lleoliad arbennig sy’n eiddo i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac mae potensial archaeolegol mawr yno.
Dros gyfnod o bythefnos yn 2025, bu 32 o staff milwrol a chyn staff milwrol yn cloddio dau o’r pantiau crwn o fewn y gaer, a hynny dan arweiniad staff Heneb a Richard Osgood, archaeolegydd y Weinyddiaeth Amddiffyn. Y gred oedd mai olion safleoedd tai crwn oedd y pantiau hyn. Ond, wrth gloddio, canfuwyd bod y pantiau crwn, oedd â diamedr o tua 8 metr, wedi’u llenwi â dyddodion pridd dwfn a oedd yn cynnwys casgliad mawr o grochenwaith Rhufeinig, 160 a mwy o ddarnau arian Rhufeinig, arteffactau Rhufeinig eraill a llawer o esgyrn anifeiliaid. Roedd y ddau bant yn edrych fel pantiau naturiol oedd yn nodweddiadol o graigwelyau calchfaen yn yr ardal hon, ac roedd y wal gerrig unigol oedd yn diffinio perimedr pob nodwedd yn ategu at hynny. Nid oedd yr olion yn edrych fel tai crwn confensiynol, ond nid oedd modd eu cloddio’n llwyr yn ystod y pythefnos, ac felly bu’n rhaid ôl-lenwi’r safle cyn cyrraedd y dyddodion isaf, a fyddai wedi bod yn fwy diddorol efallai. Bu i’r Weinyddiaeth Amddiffyn gyllido dadansoddiad ac adroddiad ôl-gloddio ar y darnau arian, y crochenwaith a’r esgyrn anifail, ac mae’r gwaith hwn ar y gweill ar hyn o bryd. Mae’r canfyddiadau cychwynnol ar y darnau arian yn dangos bod y darnau arian i gyd, oni bai am y 2 ddarn a ddaeth o Strwythur 2, yn dod o Strwythur 1, a’u bod o bosibl yn cynnwys 167 darn arian sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y drydedd ganrif. Mae’n bosibl bod y man lle canfuwyd y darnau arian o fewn y strwythur yn cynrychioli gweddillion celc gwasgarog oedd wedi’u rhoi yn wreiddiol yn y 280au neu’r 290au, ond mae presenoldeb 2 ddarn bach o arian o’r 330au yn dangos bod y darnau arian yn dal i gael eu defnyddio ar y safle yn nes at ganol y bedwaredd ganrif hefyd. Mae’r casgliad o Buckspool yn gwbl unigryw i dde-orllewin Cymru, ac mae’n bosibl y bydd yn gallu cyfrannu at amrywiaeth o gwestiynau ymchwil sy’n ymwneud â deall y safle a themâu eraill.
Roedd y gwaith cloddio’n llwyddiant ysgubol wrth i 32 o staff milwrol a chyn staff milwrol o bob rhan o Gymru, Lloegr, ac Wcráin gymryd rhan. Mae Ymgyrch Nightingale yn cofnodi canlyniadau’r prosiect a’i effaith ar unigolion yn fanwl, ac mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn nodi’n glir bod y fenter yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a bywydau pobl. Mae’n gyfle i ailafael ar gyfeillgarwch ac i gydweithio â phobl o gefndiroedd tebyg i chi, a hynny wrth ddarganfod pethau am y gorffennol mewn lleoliad prydferth. Beth well? Bydd Ymgyrch Nightingale yn dychwelyd i’r safle yn 2026 gyda chyllid gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i gynnal pythefnos arall o waith cloddio a dadansoddiad ôl-gloddio llawn.
Ewch i ddysgu rhagor am holl waith arbennig Ymgyrch Nightingale a’r gwaith cloddio yng Nghaer Bentir Oes Haearn Buckspool.
Ymgyrch Nightingale
Facebook
Mae’r ddarlith ar gael gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Caer Bentir Oes Haearn Buckspool Down – prosiect Ymgyrch Nightingale
https://www.youtube.com/watch?v=_1kyxQ06-7w
Digging for Britain
Gwyliwch yma…











