Awgrymwyd bod caer Rhufeinig yng Nghas-wis yn Sir Benfro yn y gorffennol, ond ni chafwyd tystiolaeth gadarn ohoni tan y dadansoddwyd data Lidar. Cafodd hyn ei ddilyn gan arolwg geoffisegol yn 2012 a atgyfnerthodd y ddadl o blaid caer yng Nghas-wis. Nid oedd y dystiolaeth geoffisegol yn bendant, ond ymddengys ei bod yn dangos caer ‘cerdyn chwarae’ clasurol â thair ffos.

Dangosodd cloddio prawf yn 2013 fod y safle’n gaer Rhufeinig. Cafodd pedair ffos eu cloddio er mwyn archwilio amddiffynfeydd y gaer a rhan o’i chynllun mewnol. O ystyried bod y safle wedi cael ei aredig yn rheolaidd, roedd yr archaeoleg wedi ei chadw’n syndod o dda – goroesodd gwaelod y cloddiau amddiffynnol clai, roedd gweddillion ffordd ‘intervallum’ o dan wyneb y ddaear, a dangosodd nifer o dyllau pyst sylweddol leoliad blaenorol adeiladau pren sylweddol. Wrth archwilio’r crochenwaith, ceir awgrym y cafodd y gaer ei meddiannu ar ddiwedd y ganrif gyntaf/dechrau’r ail ganrif OC ac y cafodd ei hailddefnyddio rhwng canol yr ail ganrif i ganol y drydedd ganrif OC, efallai fel safle sifil. Dyma’r gaer Rhufeinig gyntaf i’w darganfod yn Sir Benfro. Rydym yn chwilio am ragor.
Oriel Luniau


n 2014, dangosodd arolwg geoffisegol pellach bresenoldeb ddyddodion archaeolegol helaeth i’r de o’r gaer. Dangosodd cloddio mai olion anheddiad sifiliaid y cyfnod Rhufeinig oedd y rhain, yn ôl-ddyddio’r defnydd milwrol o’r gaer. Gwnaed gwaith cloddio pellach y tu mewn i’r gaer hefyd.


Lawrlwythiadau
Adroddiad dros-dro y Gaer Rhufeinig Cas-wis 20132013