Neidio i'r prif gynnwys

Mae gweddillion castell canoloesol wedi gorwedd ynghudd ar dir Cartref yn Nhir y Dail, Rhydaman, wedi’u hanwybyddu bron yn gyfan gwbl gan amser a’r trigolion lleol.

Nid oes llawer o wybodaeth am y castell mwnt a beili hwn. Mae’n debyg ei fod yn dyddio o’r 12fed ganrif, ond y cwestiwn yw, a gafodd ei adeiladu gan yr Arglwydd Rhys i amddiffyn ei hun rhag y Normaniaid yn y de, neu gan arglwyddi Normanaidd ar ffin y tir roeddynt newydd ei ennill?

Treuliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, gyda chymorth Cadw, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Cyngor Tref Rhydaman, Cymdeithas Archaeoleg a Hanes Rhydaman a gwirfoddolwyr lleol, saith niwrnod yn ystod haf 2010 yn ceisio dod o hyd i atebion i’r safle enigmatig hwn.

Archwiliwyd dull adeiladu’r mwnt a’i amddiffynfeydd cysylltiedig yn ystod y cloddiadau. Canfuwyd bod pant dysglog y mwnt yn wreiddiol. Ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth o strwythur carreg ar y mwnt, ac ychydig o dystiolaeth yn unig oedd o strwythur coed.

Lawrlwythiadau

Adroddiad Asesu Tir y Dail

Oriel Luniau

Tir y Dail Motte and Bailey Castle, Ammanford
Rhanbarth
Cyfnod

Related Projects

Eglwys Santes Lucia, Abernant, Sir Gaerfyrddin

Dyfed PRN 2251 RB No. 3359 NGR SN 3393 2311 Not listed (1998) Listed Building No.: 87567 Listed Grade II. First Listed in 2008. Last Amended in 2008… I weld

ARCHAEOLEG TREFI CANOLOESOL DE ORLLEWIN CYMRU

Mae'r prosiect hwn yn archwilio archaeoleg trefi canoloesol de-orllewin Cymru trwy gyfres o astudiaethau trefi manwl. Mae pob adroddiad yn dwyn ynghyd dystiolaeth o gloddiadau, arolygon, mapiau hanesyddol,… I weld

AROLWG A GWAITH CLODDIO YN LLEIANDY CANOLOESOL A PHLASTY ÔL-GANOLOESOL LLANLLŶR, CEREDIGION, 2014-2015

Yn draddodiadol credir bod Tŷ Llanllŷr, a adeiladwyd yn y 1830au gan deulu Lewes, wedi ei godi ar safle lleiandy canoloesol Llanllŷr. Fodd bynnag, nid oes adeiladau na… I weld