Tua diwedd y 1990au, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed arolwg cyflym o’r eglwysi hanesyddol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro fel rhan o arolwg Cymru-gyfan, drwy gymorth grant gan Cadw, a gynhaliwyd gan y pedair ymddiriedolaeth archaeolegol yng Nghymru.

Nod y prosiect oedd darparu cofnod o’r holl eglwysi yng Nghymru dan berchenogaeth yr Eglwys yng Nghymru sy’n dyddio’n ôl yn bellach na’r 19eg ganrif. Cofnodwyd eglwysi a ailadeiladwyd yn y 19eg ganrif ar safle eglwysi cynharach hefyd. Ni chofnodwyd eglwysi segur a safleoedd eglwysi diffaith.
Cofnodwyd cyfanswm o 273 o eglwysi yn y tair sir. Mae gwybodaeth am y rhain i’w gweld yma.
Lluniwyd adroddiadau trosolwg sirol hefyd, a rhannwyd Sir Benfro yn ddau adroddiad, sef gogledd Sir Benfro a de Sir Benfro.
Mae’r adroddiadau ar eglwysi unigol a’r crynodebau sirol ar gael yn Saesneg yn unig.
-
Capel Gwynfe, Gwynfe, Carmarthenshire (PRN 5516)
-
Capel Sant Padrig
-
Eglwys Newydd Church, Ceredigion (PRN 5491)
-
Eglwys Santes Lucia, Abernant, Sir Gaerfyrddin
-
Eglwysi hanesyddol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro
-
Holy Cross, Mwnt, Ceredigion (PRN 5324)
-
Holy Trinity, Cilcennin, Ceredigion (PRN 4823)
-
Holy Trinity, Taliaris, Carmarthenshire (PRN 17324)
-
Llantrisant Church, Ceredigion (PRN 5490)
-
SS Mynno, David and Andrew, Moylegrove, Pembrokeshire (PRN 17346)
-
SS Simon & Jude, Llanddeusant, Carmarthenshire (PRN 4055)
-
St Afan, Llanafan-y-Trawscoed, Ceredigion (PRN 5179)