Neidio i'r prif gynnwys

Nod y prosiect hwn oedd nodi safleoedd parciau ceirw yn ne-orllewin Cymru, asesu eu cyflwr a gwneud argymhellion ar gyfer yr enghreifftiau gorau i roi gwarchodaeth statudol iddynt.

Roedd parciau ceirw canoloesol yn ardal o dir, wedi’i hamgáu fel arfer, a oedd wedi’i neilltuo ar gyfer rheoli ceirw ac anifeiliaid gwyllt eraill er mwyn darparu cyflenwad bwyd cyson a chynaliadwy trwy gydol y flwyddyn. Yn y cyfnod ôl-ganoloesol, symudodd swyddogaeth y parc ceirw o fod yn ased economaidd i fod yn rhan o dirwedd addurnol wedi’i dylunio ar gyfer gwerthoedd amwynder a bri. Nododd y prosiect 14 o barciau ceirw o ddyddiad canoloesol, a thri o ddyddiad ôl-ganoloesol yn ne-orllewin Cymru.

Detholiad o fap 1578 Christopher Saxton yn dangos parciau ceirw yn ne Sir Benfro

Related Projects

Dyfrffyrdd Aberdaugleddau

Fel rhan o Brosiect Porthladdoedd a Harbyrau Cymru gyfan a gyllidwyd gan Cadw, roedd yr astudiaeth hon yn canolbwyntio ar nodi adnodd archaeolegol morol Dyfrffordd Aberdaugleddau. Gan ddefnyddio… I weld

Ôl cnydau mewn tiroedd caeedig yn dde-orllewin Cymru 2007: Arolwg geoffisegol

Mae yna dros 60 o gaeau yn cynnwys ôl cnydau wedi'u hadnabod ledled de Ceredigion a gogledd Penfro ers y 1980au, a llawer ohonynt yn cyfonglog—siâp unigryw i'r… I weld

PROSIECT MYNWENTYDD SIR BENFRO: CAPEL PORTHCLEW

Datgelodd cloddiadau yng Nghapel Porthclew yn 2008 a 2009 safle cymhleth gyda thystiolaeth o sawl cam o weithgarwch. Canfu arolwg geoffisegol a ffosydd fod clostir sylweddol o amgylch… I weld