Diweddariad ar ein prosiect Tirlun o Fwyeill Neolithig
Ers 2019, mae’r Prosiect Tirlun o Fwyeill Neolithig (a ariannwyd gan Cadw a Chronfa Dreftadaeth y Loteri drwy Gynllun Partneriaeth Tirlun y Carneddau), wedi bod yn archwilio’r tirlun unigryw o gwmpas Penmaenmawr a Llanfairfechan, lle cynhyrchwyd pennau bwyeill yn ystod y cyfnod Neolithig. Mae’r gwaith maes yn cynnwys tyllu tyllau prawf 1m sgwâr i gasglu tystiolaeth am y pennau bwyeill cerrig, a gwnaed yr holl waith gan wirfoddolwyr, gan gynnwys disgyblion o ysgolion lleol.

Buom yn gweithio o gwmpas Dinas, sef y bryn â chopa crwn â sgri arno uwchben Llanfairfechan, ac wedi cloddio 103 o dyllau prawf a ffosydd bychain i archwilio un o’r ffynonellau cerrig a safle anheddiad. Cawsom hyd i’r llecynnau lle bu’r bobl Neolithig yn eistedd i greu’r pennau bwyeill, ar y tir sgri lle buont yn dewis y cerrig, ac ymhellach i ffwrdd hefyd, o dan gysgod coeden efallai. Rydym wedi profi eu bod yn byw yn yr ucheldir, mewn gwersylloedd tymhorol mae’n debyg, gan gynhyrchu bwyeill cerrig, law yn llaw efallai â chadw anifeiliaid pori ar borfa’r ucheldir. Yn ogystal â’r pennau bwyeill, roeddynt yn cynhyrchu cynion cul a chreiriau crafu o’r cerrig hyn.

Defnyddiwyd pennau bwyeill o’r ardal hon ledled Cymru a Lloegr yn ystod y cyfnod Neolithig, sy’n golygu bod y tirlun hwn o bwysigrwydd cenedlaethol ac mae’r gwaith parhaus hwn yn dechrau datgelu ffordd o fyw a gwaith y bobl Neolithig.
Diolch i’n holl wirfoddolwyr am eu gwaith caled fel rhan o’r prosiect hwn.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Gareth Wyn Jones o fferm Ty’n y Llwyfan, a’i deulu, am eu caniatâd i weithio ar eu tir ac am eu diddordeb a’u cefnogaeth.
