
Fel rhan o’n ‘Prosiect Mapio ein Treftadaeth’, bu Pont Collective yn ymweld â Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) Wrecsam a oedd wedi nodi lleoedd arwyddocaol yn barod i ail grŵp fynd allan i dynnu lluniau ohonynt. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cofnodion newydd a gwell, y gallwn nawr eu hychwanegu at y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) yn yr ardal hon.
