Mae Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin, gorllewin Cymru, yn cael ei goleddu fel tirwedd hanesyddol bwysig, ac mae’n enwog am ei olygfeydd o safon sydd wedi eu ffurfio gan iâ, dwr a dyn. Mae ganddo gyfoeth o drysorau yn cynnwys ceyrydd a chestyll, parcdiroedd a gerddi, a threfi a phentrefi llawn cymeriad. Roedd y prosiect Tywi Afon yr Oesoedd yn canolbwyntio ar yr ardal rhwng Llangadog a Dryslwyn. Anelai at gryfhau cysylltiadau’r gymuned â’r dirwedd drwy ennill gwell dealltwriaeth a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i edrych ar ôl eu tirwedd. Gellir dod o hyd i fwy am y prosiect ar www.tywiafonyroesoedd.co.uk Mae’r llyfryn hwn yn dathlu’r hyn a gyflawnwyd gan un thema yn y prosiect, Chwilota’r Tywi! ymchwiliad gan y gymuned i ddechreuadau a hanes y dyffryn.
Roedd rhaglen o weithgareddau dan arweiniad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn mynd ag ysgolion, grwpiau diddordeb lleol ac aelodau o’r cyhoedd ar daith o ddarganfyddiadau mewn archaeoleg a daeareg. Nod y llyfryn yw cydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan y rhai a gymerai ran yn Chwilota’r Tywi! ac ysbrydoli archwilio pellach gan breswylwyr Dyffryn Tywi a phobl o bellach draw.
