Skip to main content

Roedd prosiect ‘Gwaddol y Gwrthwynebwyr Cydwybodol’ yn brosiect partneriaeth dan arweiniad Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, gan gynnwys Cymru dros Heddwch a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog a Cadw. Gan weithio o gwmpas Llyn y Fan Fach ar ochr orllewinol y Bannau Brycheiniog, roedd y prosiect yn anelu at archwilio hanes adeiladu’r prif gyflenwad dwr ac argae gan wrthwynebwyr cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae wedi denu pobl leol a phlant ysgol i ddarganfod archaeoleg a deall arwyddocâd y safle.

Ffeiliau a lawrlwythiadau

Adnoddau Addysgol

Mae’r proseict wedi cynhyrchu’r adnodd addysg hwn. Yn ystod y prosiect, ymwelodd dwy ysgol uwchradd ac ysgol gynradd â’r safle diddorol hwn a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ystafell ddosbarth yn ymwneud â’u hymweliad. Gobeithio y bydd yr adnodd addysgol hwn yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i annog a galluogi plant ysgol i ddarganfod arwyddocad hanesyddol a photensial addysgol eang.

Mae’r adnoddau wedi cael eu datblygu gan athro cymwys i weithio gyda chyfnod allweddol 3 er mwyn cyd-fynd â gwaith cwricwlwm am y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae gan y gwersi gymaint o gysylltiadau â’r cwricwlwm â phosibl, gan gynnwys Daearyddiaeth a Gwyddoniaeth. Efallai y bydd angen addasu rhai o’r adnoddau er mwyn gweddu i anghenion a grwp oed eich dosbarth.

Cyn addysgu unrhyw rai o’r unedau, argymhellir eich bod yn ymweld â Llyn y Fan Fach er mwyn ymgyfarwyddo â’r safle.

Related Resources