Bydd y llyfryn hwn o gymorth i chi archwilio cynhanes cudd tirlun Preseli uwchlaw Trefdraeth. Mae’r daith gerdded hon wedi ei chynllunio i adael i ymwelwyr gychwyn ar ddewis o fannau ar hyd llwybrau gwasanaethau bysiau Gwibiwr Strwmbwl, Roced Poppit a Bws Cerddwyr y Ddraig Werdd.
Mae taith gerdded haws yn cychwyn wrth faes parcio Bedd Morris gan ddewis llwybr naill ai i’r dwyrain neu’r gorllewin ar draws y rhostir agored. Efallai y bydd cerddwyr mwy profiadol yn hoffi cychwyn yn Nhrefdraeth a dringo llethrau serth Mynydd Carn Ingli.
Gellir dod o hyd i fap yn dangos y llwybrau awgrymir ar du mewn y clawr cefn.
