Bydd y llyfryn hwn o gymorth i chi archwilio cynhanes cudd tirlun Preseli a ffynhonnell meini glas Côr y Cewri. Mae’r daith gerdded hon wedi ei chynllunio i alluogi ymwelwyr i gychwyn ar ddewis o fannau ar lwybr bws cerddwyr y Ddraig Werdd.
I’r rhai sydd am ddiwrnod allan yn y bryniau, llwybr posib yw cychwyn yn y maes parcio yn ymyl Foel Eryr a chroesi’r copaon i Foel Drygarn (neu i’r gwrthwyneb os nad yw dringo Foel Drygarn yn ormod o her). Nodir hefyd deithiau cerdded at safleoedd pellach o ddiddordeb, gan gynnwys meini hirion Tafarn-y-bwlch, y siambr gladdu Neolithig, Bedd yr Afanc, a’r man uchaf yn y Preseli, Foel Cwmcerwyn.
Gellir dod o hyd i fap yn dangos y llwybrau awgrymir ar du mewn y clawr cefn.
