Mae’r llyfryn hwn yn adrodd hanes Castell Caerfyrddin, o’i ddechreuad yn gastell gwrthglawdd a sefydlwyd i hyrwyddo ymosodiad y Normaniaid ar dde-orllewin Cymru, hyd at y gaer gerrig enfawr y mae modd gweld olion ohoni heddiw. Roedd yn bencadlys y brenhinoedd Normanaidd yn ne Cymru, ac o’r herwydd yn un o gestyll pwysicaf y wlad. Hwn oedd canolbwynt tref gaerog Caerfyrddin a ddatblygodd o’i amgylch, ac mae’n dal i fwrw ei gysgod dros dirlun y dref. Dadfeilio wnaeth y castell ar ôl y Canol Oesoedd ond fe’i defnyddiwydd yn garchar hyd y 1920au. Daeth y safle yn ganolfan weinyddol unwaith eto gyda chwalu’r carchar ym 1938 ac adeiladu Neuadd y Sir ym 1939-55, ac yn yr ystyr hon mae’r castell yn parhau i ffynnu.
