Skip to main content

Mae Aberteifi’n dathlu ei 900 mlwydd oed yn 2010. Mae’r llyfryn hwn yn adrodd stori datblygiad tref Aberteifi o’i chychwyn fel tref y gororau yn y Canol Oesoedd yn ystod y rhyfeloedd Eingl-Normanaidd/Cymreig, trwy gyfnod sefydlu ei llecynnau crefyddol a statws eiconau’r castell fel cartref yr Arglwydd Rhys a man geni’r Eisteddfod, ymlaen hyd y dydd heddiw.

Heddiw mae’r dref yn parhau i newid ac atblygu. Mae rheoli’r newid hwn yn her i gynllunwyr a thrigolion. Mae’n gofyn am gydbwysedd rhwng diogelu’r hanes sydd wedi rhoi cymeriad nodedig i Aberteifi a gofynion datblygu ar gyfer lles ei thrigolion yn y dyfodol.

Er mwyn wynebu’r her hon, mae Cyngor Sir Ceredigion (gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Adeiladau Cadwraeth Cadwgan, y Loteri Genedlaethol ac arian Ewropeaidd) a Cadw wedi comisiynu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i baratoi arolwg hanesyddol manwl o’r dref er mwyn cynnig fframwaith ar gyfer datblygiad cynaliadwy yng nghanol y dref hanesyddol hon a helpu i sicrhau bod ei threftadaeth archaeolegol a hanesyddol yn ddiogel i’r dyfodol trwy ddangos gwerth y gorffennol fel ased ar gyfer y dyfodol.

Cardigan Leaflet
Rhanbarth
Cynulleidfa
Thema

Related Resources