Skip to main content

Mae cymeriad nodweddiadol tirlun trawiadol ucheldir Ceredigion, sy’n cael ei gyfrif yn ‘naturiol’ erbyn hyn, mewn gwirionedd wedi ei ffurfio a’i newid gan bobl dros filoedd o flynyddoedd. Denwyd y bobloedd hyn i’r rhanbarth gan ymchwil am y cyfoeth o fwynau sydd ynddo. Ceir tomenni rwbel ac adfeilion adeiladau ar wasgar ar draws y tirlun; gan dystio i ddiwydiant mwyngloddio metel a oedd unwaith yn ffynnu ac a adawodd ei ôl yn drwm ar hanes cymdeithasol a diwylliannol y rhanbarth, Cymru a’r byd.

Mae mwyngloddio metel wedi darfod erbyn hyn, ac mae’r ucheldiroedd yn ardal amaethyddol dawel. Mae olion hanes cyfoethog mwyngloddio metel yng Ngheredigion wedi goroesi o’n cwmpas ond bellach at ei gilydd heb eu gwerthfawrogi’n llawn.

Mae rhai’n eu hanwybyddu, eraill yn eu cam-drin ac eraill eto’n credo eu bod yn halogi tirlun a fyddai fel arall yn wyllt a naturiol. Mae’r llyfryn hwn yn rhoi golwg ar ddiwydiant mwyngloddio metel Ceredigion gynt, gan esbonio ei dechnoleg a’i bwysigrwydd a’i gyfraniad at hanes a diwylliant yr ardal. Ceir cyngor a gwybodaeth i annog pobl i werthfawrogi, cadw a diogelu ased o bwysigrwydd cenedlaethol.

Related Resources