Twmbarlwm Hillfort
Cefndir
Mae Twmbarlwm, a adwaenir yn lleol fel “Y Twmp” (h.y. tomen) oherwydd y domen sydd ar ei gopa, yn fryn 2 km (1.2 milltir) i’r gogledd-ddwyrain o’r Rhisga yn Ne Cymru. Cyfeirir ato’n anghywir yn aml fel mynydd ond bryn ydyw oherwydd ei fod o dan 600 m (2,000 tr). Mae’n 419 metr (1,375 troedfedd) o uchder ac yn dirnod adnabyddus ledled y rhanbarth. Oddi yno ceir golygfeydd helaeth ar hyd coridor yr M4, dros Gasnewydd a Chwmbrân – gyda rhan ohono’n ymestyn i mewn i Gwmbrân – ac allan dros Fôr Hafren. Mae copa Bryngaer Twmbarlwm yn arwyneb gwastad o siâp hirgrwn ac ar y rhan uchaf ceir tomen gron artiffisial o bridd a cherrig wedi’i hamgylchynu gan ffos ddofn. /p>


Archaeolegydd Gwasanaethau Cynghori, Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru
Nid oes tystiolaeth ddogfennol yn hysbys ar hyn o bryd ar gyfer Twmbarlwm, a nodir nad yw bob amser wedi cael ei dosbarthu fel bryngaer nac fel mwnt. Mae llawer o ysgolheigion yn credu bod Bryngaer Twmbarlwm yn tarddu o ddiwedd yr Oes Efydd neu ddechrau’r Oes Haearn, yn ystod cyfnod a nodweddwyd gan drefniant cymdeithasol cynyddol, pwysau poblogaeth, a newid mewn strwythurau pŵer, a fyddai’n aml yn dod i’r amlwg drwy godi bryngaerau. Roedd y llociau caerog hyn yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau posibl— llochesi amddiffynnol, canolfannau cymdeithasol, canolfannau storio, neu symbolau statws ar gyfer pwysigion a fyddai’n dod i’r amlwg yn y llwythau. Mae carnedd o’r oes efydd wedi’i chanfod yn yr heneb hon, i’r gorllewin o ffos y mwnt, ac fe’i dehonglwyd fel carnedd gron angladdol, sy’n dyddio o ddiwedd yr Oes Neolithig neu ddechrau’r Oes Efydd mae’n debyg. Cruglwyth crwn o gerrig yw’r nodwedd ac fe’i ffurfiwyd o slabiau cerrig wedi’u cloddio. Mae iddi ganol gwag sy’n awgrymu yr ysbeiliwyd y garnedd rhyw dro yn y gorffennol, gan ddwyn unrhyw arteffactau a oedd yno. Yn yr ardal ehangach ceir grŵp llinol o bedair carnedd gynhanesyddol 752m i’r gorllewin o’r safle, ac un garnedd o’r Oes Efydd ar draws y dyffryn 3km i’r de orllewin.
Wedi’i adeiladu gan ddefnyddio pridd a cherrig, mae’r lloc ar safle uchel ar grib Mynydd Twyn-glas 419 metr uwchben lefel y môr, sy’n cynnig golygfeydd helaeth dros gymoedd Ebwy a Wysg. Mae ei leoliad strategol yn awgrymu swyddogaeth amddiffynnol, o bosibl yn gweithredu fel cadarnle, lloches neu dirnod tiriogaethol, perffaith ar gyfer cadw gwyliadwriaeth, rheoli symudiadau a chyfathrebu. Mae’r mwnt wedi’i amgylchynu gan ffos wedi’i thorri o’r graig i’r de, i’r gorllewin ac i’r gogledd, ac mae’r ffos yn torri drwy ragfuriau o’r Oes Haearn gydag ysgafell wedi’i hychwanegu. Mae clawdd y rhagfur a’r ffos yn llai amlwg mewn rhan i’r gorllewin ac ystyriwyd yn wreiddiol bod hyn o ganlyniad i gylched amddiffynnol anorffenedig. Fodd bynnag, er bod yr amddiffynfeydd yma’n cael eu hystyried yn wan, datgelodd gwaith archaeolegol yn 2021 ei bod yn debygol mai dyma fynedfa’r safle am nad oes tystiolaeth o ôl-lenwi.
Yr Oes Haearn (tua 400 CCC – 43 CC)
Erbyn canol a diwedd yr Oes Haearn, mae’n debygol fod Bryngaer Twmbarlwm wedi’i hen sefydlu ac efallai ei bod wedi chwarae rhan allweddol yn hierarchaeth yr aneddiadau yn yr ardal. Mae cymariaethau archaeolegol yn awgrymu y gallai fod wedi bod yn anheddiad neu ganolfan gymunedol gyda thai crwn pren, graneri a llociau da byw, i gyd wedi’u hamgylchynu gan ragfuriau a ffosydd amddiffynnol. Mae’n debygol iddi barhau i fod yn ganolbwynt i’r boblogaeth leol, o bosibl y Silwriaid, llwyth Celtaidd amlwg yn ne-ddwyrain Cymru sy’n adnabyddus am eu gwrthsafiad yn erbyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Byddai amlygrwydd y safle wedi atgyfnerthu ei rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, economaidd ac, o bosibl, defodol yn y dirwedd ehangach. Byddai adeiladu a chynnal a chadw safle o’r fath wedi gofyn am ymdrech ar y cyd, gan awgrymu cydlyniant cymdeithasol ac arweinyddiaeth gref.
Erbyn canol a diwedd yr Oes Haearn, mae’n debygol fod Bryngaer Twmbarlwm wedi’i hen sefydlu ac efallai ei bod wedi chwarae rhan allweddol yn hierarchaeth yr aneddiadau yn yr ardal. Mae cymariaethau archaeolegol yn awgrymu y gallai fod wedi bod yn anheddiad neu ganolfan gymunedol gyda thai crwn pren, graneri a llociau da byw, i gyd wedi’u hamgylchynu gan ragfuriau a ffosydd amddiffynnol. Mae’n debygol iddi barhau i fod yn ganolbwynt i’r boblogaeth leol, o bosibl y Silwriaid, llwyth Celtaidd amlwg yn ne-ddwyrain Cymru sy’n adnabyddus am eu gwrthsafiad yn erbyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Byddai amlygrwydd y safle wedi atgyfnerthu ei rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, economaidd ac, o bosibl, defodol yn y dirwedd ehangach. Byddai adeiladu a chynnal a chadw safle o’r fath wedi gofyn am ymdrech ar y cyd, gan awgrymu cydlyniant cymdeithasol ac arweinyddiaeth gref.
Y Cyfnod Rhufeinig (43 – 410 CC) )
Yn dilyn goresgyn Prydain gan y Rhufeiniaid, cododd y Silwriaid wrthsafiad ffyrnig, a arweiniodd at ymgyrchoedd milwrol hirfaith yn ne-ddwyrain Cymru. Wedi i’r Silwriaid gael eu gorchfygu yn y pen draw, cafodd llawer o fryngaerau brodorol naill ai eu gadael neu eu hail-bwrpasu. Byddai gwerth strategol Twmbarlwm wedi lleihau wrth i’r fyddin Rufeinig sefydlu rhwydwaith o gaerau a ffyrdd ar draws y rhanbarth, gan gynnwys canolfan y lleng yng Nghaerllion (Isca Augusta), gerllaw. Byddai’r fryngaer wedi colli ei gwerth milwrol dan reolaeth Rufeinig, ac mae’n debygol y byddai ei swyddogaeth wedi dod i ben yn gyfan gwbl. Er bod tystiolaeth archaeolegol yn gyfyngedig, roedd unrhyw ddefnydd parhaus o’r safle yn ystod y cyfnod hwn yn debygol o fod yn symbolaidd, yn ddefodol neu’n ysbeidiol gan boblogaethau lleol. Er bod rhai safleoedd yn yr ucheldir wedi cael eu hail-bwrpasu at ddefnydd bugeiliol neu fel arosfannau ar y ffordd o fewn tiriogaeth Rufeinig.
Er gwaethaf arwyddocâd strategol Twmbarlwm yn ystod y cyfnod Rhufeinig, nid oes unrhyw dystiolaeth uniongyrchol o feddiannaeth Rufeinig ar y bryn ei hun. Fodd bynnag, mae crochenwaith Rhufeinig ac arteffactau eraill wedi’u darganfod ar lethrau is a safleoedd cyfagos yng Nghwm Ebwy, sy’n awgrymu gweithgarwch Rhufeinig yn y dirwedd ehangach. Gall yr eitemau hyn adlewyrchu masnach, symudiadau neu ddeunyddiau wedi’u dadleoli yn hytrach nag anheddiad uniongyrchol yn y fryngaer.
Y Cyfnod Canoloesol Cynnar (5ed – 11eg ganrif)
Ar ôl i’r Rhufeiniaid ymadael ar ddechrau’r 5ed ganrif, dychwelodd pŵer i ddwylo rheolwyr lleol a grwpiau o lwythau. Er bod tystiolaeth archaeolegol uniongyrchol o’r cyfnod hwn yn brin, gellir credu y gallai Twmbarlwm fod wedi cadw ei harwyddocâd fel ffin diriogaethol neu safle seremonïol. Efallai fod ei hamlygrwydd parhaus yn y dirwedd wedi ei gwneud yn farc terfyn naturiol rhwng teyrnasoedd neu gymydau canoloesol cynnar a oedd yn dod i’r amlwg. Ar ben hynny, cafodd rhai bryngaerau eu hailfeddiannu neu eu defnyddio fel safleoedd ymgynnull yn ystod y cyfnod hwn, er nad oes unrhyw waith cloddio yn Nhwmbarlwm wedi cadarnhau ailddefnydd o’r fath. Byddai ei phresenoldeb mawreddog wedi parhau i siapio hunaniaeth a thraddodiad yn yr ardal, gan arwain o bosibl at chwedloniaeth a llên gwerin cynnar.
Y Cyfnod Canoloesol (12fed – 15fed ganrif) /h2>
Mae tomen gopa Twmbarlwm yn cynnwys tomen bendant ac mae rhai ysgolheigion wedi’i dehongli fel mwnt Normanaidd posibl, sy’n awgrymu y gallai’r safle fod wedi cael ei ailddefnyddio fel tŵr gwylio neu safle anfon signalau yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae ffurf clawdd a ffos y mwnt hwn, ar ben dwyreiniol y lloc, yn awgrymu mai mwnt canoloesol ydoedd. Cafodd ei rannau isaf, gan gynnwys y ffos, eu torri o’r craigwely, gyda’r domen wedi’i chodi uwchben y lefel hon. Mae Phillips wedi categoreiddio’r safle fel mwnt tŵr gwylio cynnar heb feili, ac mae’n tybio y byddai terfyn dylanwad y Normaniaid wedi’i gyfyngu i ben dwyreiniol y safle. Gallai fod wedi cynnwys tŵr mawreddog â ffrâm bren iddo mewn cwrt bychan â phalisâd. Ar y gwaelod ceir ffos ddofn, wedi’i thorri o’r graig mewn mannau, sy’n ymddangos fel pe bai’n torri drwy ffos y lloc.
Mae Knight hefyd yn awgrymu y gallai’r mwnt fod wedi bod yn gastell de Clare na orffennwyd ei adeiladu ar ddiwedd y 13eg ganrif, gan nodi ei debygrwydd o ran lleoliad i gastell cerrig arall ym Morlais. Er bod y dehongliad hwn yn dal yn amhendant, byddai’n awgrymu bod y Normaniaid wedi gweld gwerth mewn ailddefnyddio safleoedd strategol cynharach i sicrhau rheolaeth dros ucheldiroedd y rhanbarth a llwybrau teithio allweddol. Byddai gwylfa o’r fath wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol wrth oruchwylio symudiadau drwy Gwm Ebwy, a ddaeth yn fwy hygyrch gyda datblygiad llwybrau canoloesol. Mae Wiles yn nodi bod hwn yn safle anarferol o anghysbell ar gyfer castell canoloesol, yn enwedig ar gyfer canolfan diriogaethol uchelwrol, ac mae’n bosibl i’r castell gael ei godi fel caban hela yn arglwyddiaeth Casnewydd. Pe bai’r lloc yn cael ei ystyried yn rhan o’r castell, byddai hyn yn awgrymu bod hwn yn fan ymgynnull lle byddai taeogion yn ymgasglu i weini ar eu harglwydd. Serch hynny, nid oes tystiolaeth ddogfennol o gastell na safle maenorol yn Nhwmbarlwm, sy’n awgrymu mai cyfyngedig fu unrhyw ailddefnyddio. Nid oes unrhyw arteffactau cysylltiedig fel crochenwaith canoloesol, hoelion na gwaith maen wedi’u cadarnhau. Mae diffyg deunydd o’r fath yn gwneud y dehongliad yn un damcaniaethol.
Y Cyfnod Ôl-ganoloesol i’r Cyfnod Modern (16eg ganrif – Y Presennol)
Mewn canrifoedd diweddarach, cafodd Twmbarlwm ei gwreiddio yn chwedloniaeth yr ardal, weithiau’n gysylltiedig â’r cymeriad chwedlonol Twm Sion Cati – er bod hynny’n anghywir. Erbyn y 18fed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, denodd ddiddordeb hynafiaethwyr, yn enwedig yn ystod mudiad Rhamantaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a oedd yn delfrydu tirweddau gwyllt a hynafol. Ers hynny, mae wedi dod yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer gweithgareddau cymunedol a cherddwyr ac wedi chwarae rhan ym mywyd diwylliannol lleol de-ddwyrain Cymru, gyda theithiau cerdded y Pasg a’r Sulgwyn yn dod yn draddodiadau blynyddol. Yn ôl y sôn, mae darganfyddiadau prin fel darnau arian a gwaith metel wedi eu canfod yn yr ardal, yn aml drwy ddefnyddio offer canfod metel heb ei reoleiddio. Fel arfer, nid yw’r canfyddiadau hyn yn haenedig ac mae’n anodd eu cysylltu’n uniongyrchol â chyfnodau prif ddefnydd y fryngaer.
Yn yr 20fed ganrif, chwalwyd rhan ddeheuol y rhagfur. Er bod yr amgylchiadau’n parhau’n aneglur, mae dyfalu ynghylch ymgais i ddefnyddio’r tir i’w aredig ar gyfer tyfu cnydau. Mae olion wal derfyn o gerrig yn cefnogi’r ddamcaniaeth hon ac efallai ei bod unwaith wedi amgáu’r ardal amaethyddol. Mae toriad ychwanegol, llai o ran maint, hefyd mewn man arall ar y safle, ac nid yw ei amgylchiadau’n hysbys. Erbyn yr 21ain ganrif, roedd y safle wedi dioddef erydiad a difrod gan gerbydau oddi-ar-y-ffordd, gan ysgogi ymdrechion cadwraethol. Heddiw, mae wedi’i dynodi’n Heneb Restredig ac mae’n parhau i fod yn nodwedd ddiwylliannol a thirweddol werthfawr, sy’n symbol o ddyfnder hanesyddol a hunaniaeth Cymoedd de-ddwyrain Cymru. Ers hynny, mae’r safle wedi cael ei addasu, ei adfer a’i dirlunio’n sylweddol gan y cyngor a Cadw ers 1984. Mae bellach yn rhan o Ffordd Goedwig Cwmcarn, gyda diddordeb parhaus gan y cyhoedd yn ei harchaeoleg, ei threftadaeth a’i lleoliad naturiol.
Cymharol gyfyngedig yw’r dystiolaeth o ran arteffactau o Fryngaer Twmbarlwm, yn bennaf oherwydd diffyg gwaith cloddio archaeolegol modern ar raddfa fawr. Bu llên gwerin ac adroddiadau anecdotaidd ynghylch Twmbarlwm ers tro byd, gan gynnwys honiadau heb eu cadarnhau o arfau, esgyrn neu drysor wedi’u claddu. Er bod straeon o’r fath yn adlewyrchu arwyddocâd diwylliannol y bryn, nid ydynt yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth archaeolegol y gellir ei dilysu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ffotograffiaeth o’r awyr a rhywfaint o waith arolygu geoffisegol wedi datgelu nodweddion posibl o dan yr wyneb, gan gynnwys llwyfannau tai crwn a ffosydd posibl. Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gallai cloddio pellach arwain at dystiolaeth arteffactaidd fwy pendant yn ymwneud â gweithgarwch domestig ac amddiffynnol yn yr Oes Haearn. Er bod y cofnod arteffactaidd presennol o Fryngaer Twmbarlwm yn gyfyngedig ac yn ddarniog, mae gan y safle botensial sylweddol ar gyfer astudiaeth yn y dyfodol. Gyda’i lleoliad amlwg, ei nodweddion strwythurol a’i chysylltiadau hanesyddol, mae Twmbarlwm yn parhau i fod yn safle archaeolegol pwysig yn nhirwedd de-ddwyrain Cymru.
Archwiliad Archaeolegol
Hyd yma, nid oes unrhyw waith cloddio archaeolegol ar raddfa fawr wedi digwydd ym Mryngaer Twmbarlwm. Mae’r ddealltwriaeth bresennol o’r safle yn seiliedig ar arolygon topograffig, delweddu o’r awyr, a disgrifiadau hanesyddol, sy’n golygu nad yw’r camau adeiladu, y nodweddion mewnol na’r gronoleg gyffredinol wedi cael eu harchwilio i raddau helaeth. Mae gan y safle botensial sylweddol ar gyfer archwiliad yn y dyfodol er mwyn deall yn well sut y cychwynnodd, sut y datblygodd a beth oedd ei gyfraniad yn nhirwedd y rhanbarth. Roedd adroddiadau cynnar gan hynafiaethwyr fel Thomas Pennant a’r Archddiacon Coxe, er eu bod yn ddamcaniaethol ac yn rhamantaidd i raddau helaeth, yn cydnabod sefyllfa strategol y bryn ac yn cynnig sawl tarddiad gwahanol, gan gynnwys cysylltiadau Rhufeinig, Normanaidd a Derwyddol. Mae Bryngaer Twmbarlwm wedi cael ei chofnodi a’i monitro’n ffurfiol gan Heneb, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW), a Cadw. Mae ei phrif nodweddion – gan gynnwys rhagfuriau mewnol ac allanol, tomen ganolog, a strwythurau mynedfa – wedi cael eu mapio a’u disgrifio mewn cofnodion swyddogol.
Mae ffotograffiaeth awyr a synhwyro o bell, gan gynnwys LiDAR, wedi datgelu gwrthgloddiau fel terasau a llwyfannau cytiau posibl, yn ogystal â chysylltiadau â llwybrau a systemau caeau cyfagos. Mae arolygon geoffisegol cyfyngedig wedi cael eu cynnal, gyda’r nod, mae’n debyg, o geisio canfod nodweddion o dan yr wyneb, fel ffosydd neu dyllau pyst, ond heb gloddio, mae’r canlyniadau hyn yn parhau i fod yn amhendant. Mae asesiadau dadansoddi paill a mesuriadau ymoleuedd wedi cael eu cynnal ar y safle hefyd. Mae bryngaer Twmbarlwm wedi cael ei herydu a’i difrodi gan gerddwyr a cherbydau oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon, gan sbarduno ymdrechion i fonitro’i chyflwr a’i sefydlogi dan arweiniad Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru, a grwpiau treftadaeth lleol. Mae mudiadau cymunedol, fel Cyfeillion Twmbarlwm, wedi cyfrannu’n sylweddol at waith cadwraeth, cynnal a chadw llwybrau, ac ymgysylltu â’r cyhoedd, gan helpu i ddiogelu a chodi ymwybyddiaeth o arwyddocâd archaeolegol a diwylliannol y safle.


Lleoliad
Maes Mawr Farm,Risca,
NP44 6HU
NGR ST2421792611
Llyfryddiaeth Ddethol
- Coxe, W. (1801). An Historical Tour in Monmouthshire. Llundain.
- Hankinson, R. (2022). Twmbarlwm Archaeological Excavation. Adroddiad CPAT 1820.
- Howell, R. & Pollard, J. (2004). “The Iron Age,” in Aldhouse-Green, M. & Howell, R., The Gwent County History, Vol. I, 140–159.
- Kenyon, J. (2010). The Medieval Castles of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru.
- Knight, J. (2019/20). “An Accidental Excursion into Monmouthshire,” Castle Studies Group Journal 33, 213–214.
- Leland, J. (1538–43). The Itinerary of John Leland the Antiquary, Vol. III (1711 ed.), p. 32.
- Matthews, C. M. (2021). Twmbarlwm Geophysical Investigations 2019 and 2021. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys a Chymdeithas Twmbarlwm.
- Phillips, N. (2006). Earthwork Castles of Gwent and Ergyng AD 1050–1250. BAR, 341–342.
- Wiles, J. (2008). “Twmbarlwm Castle Mound.” Coflein.
Cyfeiriwch at y gwaith hwn
Arddull Harvard neu APA
Dallimore, J. (2025, July 27). Twmbarlwm Hillfort. The Archaeology Addict. Retrieved from https://thearchaeologyaddict.wixsite.com/thearchaeologyaddict/post/twmbarlwm-hillfort
Arddull Harvard neu APA /h3>
Dallimore, Jessica J. “Twmbarlwm Hillfort.” The Archaeology Addict. 27 Jul. 2025. https://thearchaeologyaddict.wixsite.com/thearchaeologyaddict/post/twmbarlwm-hillfort
Arddull Harvard neu APA
Dallimore, Jessica J. “Twmbarlwm Hillfort.” The Archaeology Addict. Last modified July 27, 2025. https://thearchaeologyaddict.wixsite.com/thearchaeologyaddict/post/twmbarlwm-hillfort