Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn ddigwyddiad ysgubol a gafodd effeithiau helaeth ledled Cymru – nid oedd unrhyw ardal heb ei chyffwrdd wrth i’r wlad gyfan baratoi i gyfrannu i ymdrech y rhyfel. Dros 100 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r genhedlaeth a oedd yn dyst i’r rhyfel wedi mynd, a’r hyn sydd gennym ar ôl yw cofnodion hanesyddol a thystiolaeth gorfforol – adeiladau, tirweddau ac arteffactau. Cafodd llawer o adeiladau a chyfleusterau eu dymchwel yn fuan wedi’r rhyfel ar ôl iddynt gyflawni eu diben, dychwelodd rhai i’w swyddogaeth cyn y rhyfel, a defnyddiwyd eraill at ddibenion newydd.
O ystyried y cafodd llawer o adeiladau a strwythurau eu codi dros dro i wasanaethu ymdrech y rhyfel, mae’n rhyfeddol bod unrhyw beth wedi goroesi. Fodd bynnag, yn 2013 â chanmlwyddiant y rhyfel ar y gorwel, nid oedd unrhyw un yn gwybod beth yn union oedd wedi goroesi. Felly, cyllidodd Cadw’r pedair ymddiriedolaeth archaeolegol yng Nghymru i ymchwilio, archwilio a chofnodi’r gwersylloedd, y meysydd tanio, yr amddiffynfeydd, y ffatrïoedd a’r cofebion yng Nghymru. Mae’r llyfryn byr hwn yn crynhoi’r gwaith a wnaed gan yr ymddiriedolaethau ac mae’n dangos yr effaith ddwys a gafodd y rhyfel, nid yn unig ar fywydau pobl Cymru, ond hefyd ar dirwedd Cymru.
