Trosolwg
Ein tîm Rheoli Treftadaeth yw’r pwynt cyswllt cyntaf i unigolion a sefydliadau sy’n chwilio am gyngor a gwybodaeth am unrhyw agwedd ar amgylchedd hanesyddol Cymru.
Gallwn roi cyngor ar ddarganfyddiadau unigol, safleoedd neu dirweddau sydd o arwyddocâd lleol neu ryngwladol, ac sy’n amrywio o’r cyfnod cynhanes i’r presennol.


Mae ein tîm yn gwneud gwaith i:
Rheoli Treftadaeth
Rydym yn darparu cyngor strategol i adrannau Llywodraeth Cymru ar bolisïau, cynlluniau, canllawiau, asesiadau ac arfarniadau sy’n effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol, ac yn darparu cyngor ar waith achos i ffermwyr a thirfeddianwyr, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Rydym yn darparu gwybodaeth a chyngor ar y gwahanol agweddau ar yr amgylchedd hanesyddol:
Rydym hefyd yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei bwydo’n ôl i’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol gan unigolion a sefydliadau eraill.
Rydym yn fwy na pharod i roi cyngor ar unrhyw gwestiynau neu ymholiadau archaeolegol.
Mae Heneb wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n nodi trefniadau gweithio ar y cyd ar gyfer yr amgylcheddau hanesyddol a naturiol.

Dogfennau a Dolenni Defnyddiol
Ein gwaith
Caer Digoll
Ym 2008 prynodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys fryngaer gwych Caer Digoll…
Eglwysi
Sefydlwyd eglwysi plwyfol Cymru mewn rhai achosion dros fil o flynyddoedd yn ôl.
Morol
Un o feysydd mwyaf deinamig yr amgylchedd hanesyddol yw lle mae’r tir yn cwrdd â’r môr.
Gofalu Am Henebion
Ddim yn siŵr beth rydych chi wedi’i ddarganfod?
Ar gyfer adnabod heneb…
Trosedd Treftadaeth
Wedi canfod Trosedd Treftadaeth? Beth i’w wneud nesaf.
Hynafiaethau Cludadwy
Mae’r Cynllun Henebion Cludadwy yn gynllun adrodd gwirfoddol sy’n cael ei redeg gan yr Amgueddfa Brydeinig a…
Cefn Gwlad
Mae gweddillion archeolegol sydd yng nghefn gwlad yn aml yn cael eu heffeithio gan…
Ymholiadau a Gwybodaeth Gyswllt
Cyflwyno Ymholiad Rheoli Treftadaeth
Cais am Wybodaeth o Gofnod Amgylchedd Hanesyddol Cymru: Cyflwyno Ymholiad Rheoli Treftadaeth
Ymholiadau Cyffredinol
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol neu i drefnu apwyntiad i ymweld ag un o’n swyddfeydd rhanbarthol, anfonwch e-bost atom yn [email protected]