Skip to main content

Un o ardaloedd mwyaf deinamig yr amgylchedd hanesyddol yw lle mae’r tir yn cwrdd â’r môr.

Mae’r tonnau’n dod â dyddodion i mewn ac yn cael gwared arnynt yn barhaus gan amlygu arwynebau tir hynafol yn y parth rhynglanwol a darnau newydd trwy henebion ar y clogwyni. Rhwng 2010 a 2015, cynhaliodd cyn Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru brosiect, a ariannwyd gyda chymorth grant gan Cadw, i recriwtio gwirfoddolwyr trwy BrosiectArfordir i’n helpu i fonitro a chofnodi’r arfordir sy’n newid yn barhaus a sicrhau bod gwybodaeth newydd yn cyrraedd y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol. Mae’r gwaith hwn wedi’i ddatblygu gan Heneb fel menter Cymru gyfan.

Mae awdurdodau lleol a chyrff amgylcheddol fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am lunio cynlluniau rheoli ar gyfer yr arfordir ar lefel strategol. Mae’r Ymddiriedolaeth yn rhoi argymhellion iddynt er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei warchod yn briodol, a’i fod yn cael ei ystyried wrth ddylunio amddiffynfeydd môr newydd. Rydym hefyd yn darparu cyngor i sicrhau nad yw pobl sy’n defnyddio’r arfordir at ddibenion hamdden ac at ddibenion eraill yn niweidio’r archaeoleg yn anfwriadol.

Dolennau defnyddiol

Cynllunio

Rydym yn darparu cyngor archaeolegol diduedd arbenigol i awdurdodau cynllunio lleol Cymru, yn ogystal ag i asiantaethau cenedlaethol, cwmnïau cyfleustodau, datblygwyr, ymgynghorwyr ac eraill sy’n ymwneud â datblygu yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Tirweddau hanesyddol

Y Gofrestr o Dirweddau o Ddoddordeb Hanesyddol yw’r cam cyntaf, trosolwg cenedlaethol o gynnwys hanesyddol tirwedd Cymru. Y cam nesaf, mor hanfodol i’r broses o lywio’r modd y gellir rheoli agweddau ar y tirwedd cenedlaethol, yw trefnu bod gwybodaeth fwy manwl ar gael ynglyn a chymeriaid y tirwedd hwn ar lefel fwy lleol.