Cefn gwlad
Mae olion archaeolegol sydd yng nghefn gwlad yn aml yn cael eu heffeithio gan newid defnydd tir sydd y tu allan i’r cynllun rheoli cynllunio. Mae Heneb yn cysylltu’n agos â chyrff perthnasol: i fonitro newid ac effaith ac i gynghori ar gynlluniau a gwaith adferol. Mae rhai cynlluniau yn rhoi cyfle i dirfeddianwyr neu denantiaid ennill cyllid i barhau i warchod ein hetifeddiaeth hanesyddol gyfoethog a therfynol y mae llawer wedi ymgymryd â hi ers cenedlaethau.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo Cadw a Chyfoeth Naturiol Cymru i reoli’r amgylchedd hanesyddol o fewn tirweddau lle mae tirweddau o’r fath yn cael eu gwarchod i ryw raddau oherwydd eu harwyddocâd hanesyddol neu archeolegol fel sy’n wir am y rhai sydd wedi’u cynnwys ar y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi Hanesyddol a’r rhai a warchodir am resymau lluosog fel Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Gŵyr, Dyffryn Gwy ac Ynys Môn.
Lawrlwythiadau
Cynllunio
Rydym yn darparu cyngor archaeolegol diduedd arbenigol i awdurdodau cynllunio lleol Cymru, yn ogystal ag i asiantaethau cenedlaethol, cwmnïau cyfleustodau, datblygwyr, ymgynghorwyr ac eraill sy’n ymwneud â datblygu yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Tirweddau hanesyddol
Y Gofrestr o Dirweddau o Ddoddordeb Hanesyddol yw’r cam cyntaf, trosolwg cenedlaethol o gynnwys hanesyddol tirwedd Cymru. Y cam nesaf, mor hanfodol i’r broses o lywio’r modd y gellir rheoli agweddau ar y tirwedd cenedlaethol, yw trefnu bod gwybodaeth fwy manwl ar gael ynglyn a chymeriaid y tirwedd hwn ar lefel fwy lleol.
