Gofalu Am Henebion
Ddim yn siŵr beth rydych chi wedi’i ddarganfod?
Er mwyn adnabod heneb, byddwn fel arfer yn gofyn i chi anfon ffotograffau – weithiau dyma’r cyfan sydd ei angen er mwyn i ni allu adnabod, ond gyda safleoedd mwy anarferol neu gymhleth bydd angen i ni ymweld â’r safle. Dydych chi byth yn gwybod y gallech chi gael rhywbeth arbennig!
O ran cadwraeth, neu os ydych yn ystyried adfer heneb, gallwn ddarparu cyngor ac arweiniad ar fframwaith rheoli effeithiol, yn ogystal â gwybodaeth am ddyletswyddau cyfreithiol a statudol.
I gael mwy o wybodaeth am archaeoleg o fewn y broses gynllunio ewch i’n tudalennau Cynllunio Archaeolegol.
Lawrlwythiadau
Planning Services
Rydym yn darparu cyngor archaeolegol diduedd arbenigol i awdurdodau cynllunio lleol Cymru, yn ogystal ag i asiantaethau cenedlaethol, cwmnïau cyfleustodau, datblygwyr, ymgynghorwyr ac eraill sy’n ymwneud â datblygu yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Historic Landscapes
Y Gofrestr o Dirweddau o Ddoddordeb Hanesyddol yw’r cam cyntaf, trosolwg cenedlaethol o gynnwys hanesyddol tirwedd Cymru. Y cam nesaf, mor hanfodol i’r broses o lywio’r modd y gellir rheoli agweddau ar y tirwedd cenedlaethol, yw trefnu bod gwybodaeth fwy manwl ar gael ynglyn a chymeriaid y tirwedd hwn ar lefel fwy lleol.
