
Mae Heneb wedi dewis Rosterfy i wella profiad gwirfoddolwyr, cysylltu cymunedau, ac ehangu’r ymgysylltiad â threftadaeth ar draws Cymru.
—
Mae’n bleser gan Rosterfy, y darparwr meddalwedd rheoli gwirfoddolwyr blaenllaw, gyhoeddi y bydd Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru, yn defnyddio llwyfan Rosterfy i symleiddio ac ehangu ymgysylltiad gwirfoddolwyr ar draws Cymru.
“Ar ôl chwilio’n helaeth, mae Heneb wedi sefydlu partneriaeth â Rosterfy i gefnogi ein rhaglenni a’n prosiectau ymgysylltu â gwirfoddolwyr. Rydyn ni’n ddiolchgar i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am helpu Heneb i sicrhau bod y bartneriaeth yn bosibl drwy ein grant Meithrin Gwytnwch a Chynaliadwyedd.” Geiriau Denise Jones, Pennaeth Cyllid ac Adnoddau Busnes yn Heneb.
Ffurfiwyd Heneb yn 2024, drwy gyfuno’r pedair ymddiriedolaeth archeolegol yng Nghymru – Clwyd-Powys, Dyfed, Morgannwg-Gwent, a Gwynedd – ac mae’n dwyn ynghyd dros 50 mlynedd o arbenigedd yn datgelu a diogelu treftadaeth archaeolegol werthfawr Cymru. Mae symud i ddefnyddio Rosterfy yn gam mawr yn nhrawsnewidiad Heneb i fod yn rhaglen wirfoddoli unedig a chyfoes – gan gysylltu cymunedau â’r gorffennol drwy brosiectau treftadaeth ac ymchwil amrywiol.
“Mae ein gwirfoddolwyr ar hyn o bryd yn cael eu rheoli ar lefel ranbarthol, ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar iddyn nhw am eu cymorth ag amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys ymchwil desg, mewnbynnu data, cloddiadau, prosesu canfyddiadau ar ôl cloddiadau, a llawer mwy”, meddai Zoe Arthurs, Arweinydd Allgymorth Cenedlaethol yn Heneb.
Symleiddio ac ehangu ymgysylltiad gwirfoddolwyr ar draws Cymru
Ar ôl cyfuno pedair Ymddiriedolaeth ranbarthol, nododd Heneb fod angen dull mwy cydlynol o reoli gwirfoddolwyr, a hwnnw’n ddull y mae modd ei ehangu. Roedd symud o brosesau rhanbarthol i fframwaith cenedlaethol yn cyflwyno heriau o ran cyfathrebu, gweinyddu, amserlennu ac adrodd.
Bydd awtomeiddiad Rosterfy, ei adnoddau adrodd, a’r ffaith bod modd ei ehangu yn galluogi Heneb i uno data gwirfoddolwyr, a symleiddio prosesau cynefino a gwiriadau diogelwch, gan hefyd wella’r cyfathrebu ar draws yr holl brosiectau. Bydd hyn yn golygu y bydd gan staff fwy o amser i ganolbwyntio ar gefnogi gwirfoddolwyr a chael effaith.
“Bydd cyflwyno system wedi’i safoni yn ein helpu ni i ryddhau amser ein timau i gefnogi’r unigolion sy’n ymgysylltu â Heneb, i hyrwyddo amrywiaeth o gyfleoedd, ac i ddarparu profiad defnyddiwr rhwydd i’n gwirfoddolwyr,” ychwanegodd Arthurs.
Pam Rosterfy? Grymuso gwirfoddoli ym maes treftadaeth drwy dechnoleg
Roedd Heneb yn chwilio am bartner a allai ddarparu datrysiad hyblyg a hawdd ei ddefnyddio, a fyddai’n galluogi gwirfoddolwyr i wneud y gorau o’r cyfleoedd i ymgysylltu ar draws Cymru. Prif apêl Rosterfy oedd ei ymarferoldeb pwerus, ei nodweddion cydymffurfio, a’i allu i adnabod cyfraniad gwirfoddolwyr drwy ddata a mewnwelediadau manwl gywir.
“Treulion ni amser maith yn edrych ar amrywiaeth o opsiynau eraill ond roedd y tîm cyfeillgar, yr arddangosiad estynedig, y system hawdd ei defnyddio, y staff gwybodus a’r gwerth am arian yn golygu bod Rosterfy yn ddewis amlwg,” rhannodd Arthurs. “Diolch i grant hael Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydyn ni’n hynod falch o allu penodi Rosterfy i ddarparu’r gwasanaeth a’r feddalwedd arbennig a fydd yn ein helpu ni i ofalu am ein gwirfoddolwyr.”
Edrych tua’r dyfodol: symleiddio’r gweinyddu, gwella’r profiad
Drwy roi Rosterfy ar waith a threulio cyfnod penodol yn hyfforddi staff a gwirfoddolwyr, bydd Heneb yn cyflwyno dull unedig o reoli gwirfoddolwyr ar draws y sefydliad. Bydd llwyfan Rosterfy yn symleiddio’r gwaith gweinyddu ac adrodd, yn cynnig profiad symlach i wirfoddolwyr, ac yn gwella hygyrchedd cyfleoedd ledled y wlad.
Bydd porth gwirfoddolwyr Rosterfy yn ei gwneud yn haws i wirfoddolwyr Heneb ganfod prosiectau, cadw cofnod o’u horiau, a dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf – gan sicrhau profiad mwy cydlynol a gwell i bawb.
Roedd Casper Harratt, Rheolwr Cyffredinol Rosterfy, yn croesawu’r bartneriaeth newydd, gan nodi:
“Rydyn ni’n falch iawn o sefydlu partneriaeth â Heneb er mwyn helpu i gysylltu pobl ledled Cymru drwy’r dreftadaeth gyffredin sydd ganddyn nhw. Yma yn Rosterfy, rydyn ni’n cydnabod pŵer gwirfoddoli i ddod â chymunedau ynghyd drwy achosion sy’n bwysig iddyn nhw, ac mae’r bartneriaeth hon yn cynrychioli’n union hynny.”
Cefndir Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru
Mae Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru, yn elusen annibynnol a sefydlwyd ym mis Ebrill 2024 drwy gyfuno’r pedair Ymddiriedolaeth Archeolegol ranbarthol yng Nghymru. Drwy ei hymrwymiad i ddiogelu, ymchwilio, cofnodi, a hyrwyddo amgylchedd hanesyddol Cymru, mae Heneb yn cysylltu pobl a chymunedau â’u treftadaeth drwy gynnal ymchwiliadau archaeolegol, ymgysylltu â’r gymuned, a chynnig cyngor arbenigol ar gynllunio a chadwraeth.
Cefndir Rosterfy
Rosterfy yw llwyfan rheoli gwirfoddolwyr mwyaf blaenllaw’r byd, sy’n grymuso sefydliadau i awtomeiddio prosesau cynefino, amserlennu, cydymffurfio a chyfathrebu ar draws rhaglenni gwirfoddoli ar raddfa eang. Mae Rosterfy wedi ennill ymddiriedaeth cwmnïau nid-er-elw, elusennau gofal iechyd, digwyddiadau mawr, a sawl ffederasiwn chwaraeon byd-eang, ac mae wedi helpu i hwyluso dros 150 miliwn o oriau gwirfoddoli ym mhob cwr o’r byd.




