
Fe wnaeth ein gwirfoddolwyr herio’r tywydd yn siambr gladdu Trearddur lle mae dehongliad newydd eisoes yn dod i’r amlwg. Mae’r darganfyddiadau cynnar yn y domen yn cynnwys poteli wedi’u brandio a hyd yn oed esgid sydd wedi goroesi’n rhannol!
Mae’r ymchwiliad wedi dangos bod y ‘siambr gladdu’ mewn gwirionedd yn faen hir tebyg i Dŷ Mawr gerllaw!
Mae gwaith eto i’w wneud ar y safle eiconig hwn wrth i ni geisio ei ddeall yn well, felly tanysgrifiwch i’n cylchlythyr a chofrestru ar y wefan i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein darganfyddiadau.









