Skip to main content

Mae gan Gymru lawer o safleoedd archaeolegol, gan gynnwys olion gweladwy fel siambrau claddu, olion adeiladau, waliau, gwrthgloddiau, ac olion sy’n dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at yr 20fed ganrif.

Mae rhai wedi’u claddu, fel ffosydd, neu dir caeëdig, olion cynhanesyddol bregus, tystiolaeth amgylcheddol mewn mawn er enghraifft, ac nid ydynt i’w gweld uwchben y ddaear.

Mae rhai o’r rhain yn henebion rhestredig oherwydd eu pwysigrwydd cenedlaethol, ac mae’r rhain yn ffurfio tua 10% o’r archaeoleg hysbys yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol.

Daw pobl o bellteroedd i ymweld â’r nodweddion hyn, ond yn anffodus, mae rhai nad ydynt yn eu parchu.

Ers lansio Ymgyrch Treftadaeth Cymru yn 2022, mae Heddluoedd Cymru wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Cadw, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parciau Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ymddiriedolaethau archaeolegol a gwirfoddolwyr i godi ymwybyddiaeth o Droseddau Treftadaeth a’u hatal.

Dyma rai enghreifftiau o Droseddau Treftadaeth

  • Dwyn

  • Mynd â deunydd archaeolegol o’r safle neu’i aildrefnu

  • Dinistrio deunydd archaeolegol

  • Llosgi bwriadol a chynnau tanau

  • Mynd ati i ganfod metelau yn anghyfreithlon

  • Gyrru anghyfreithlon oddi-ar-y-ffordd

  • Fandaliaeth a graffiti

  • Gwaith anawdurdodedig ar safleoedd hanesyddol dynodedig

  • Tarfu ar safleoedd claddu

  • Difrod troseddol

  • Hedfan dronau heb ganiatâd ger henebion

Os ydych chi’n meddwl bod yr eiddo yn adeilad rhestredig, cysylltwch ag adran Gadwraeth eich Awdurdod Lleol i sicrhau ei fod yn ymwybodol o unrhyw ddifrod sydd wedi’i achosi i’r ased.

Os ydych chi’n meddwl bod yr eiddo’n heneb gofrestredig, cysylltwch â Cadw i sicrhau ei fod yn ymwybodol o unrhyw ddifrod sydd wedi’i achosi i’r ased.

Byddwch yn barod i ddarparu datganiad tyst i’r heddlu fel rhan o unrhyw gamau gweithredu ffurfiol gan yr heddlu o ganlyniad i’r digwyddiad.

Sut mae rhoi gwybod am drosedd treftadaeth