Nigel Clubb
Profiad: Archifydd ac Archaeolegydd sydd â phrofiad helaeth o lywodraethiant a strategaethau treftadaeth.
Gynt: Pennaeth Polisi Tai, Cyngor Llundain Fwyaf a Rheolwr Cofnodion Corfforaethol, Swyddfa Cofnodion Berkshire. Sefydlodd Gofnod Amgylchedd Hanesyddol Llundain Fwyaf cyn dod yn Gyfarwyddwr ar y Cofnod Henebion Cenedlaethol gyda’r Comisiwn Seisnig Brenhinol ac yna gydag Engilsh Heritage, lle’r oedd yn rheolwr ar oddeutu 120 o staff. Cydlynydd Cenedlaethol, ar ran Comisiwn Brenhinol Henebion Lloegr/English Heritage, ar berthnasoedd gyda Chymdeithas Swyddogion Archaeolegol Llywodraeth Leol ar faterion yn ymwneud â Chofnodion Amgylchedd Hanesyddol, Cadeirydd Corpws Cerfluniaeth Rufeinig Prydain ac Iwerddon, Aelod o Gronfa Dreftadaeth Loteri Genedlaethol Cymru, Ymddiriedolwr Cronfa Bensiynau’r Sefydliadau Archaeolegol a Chyfarwyddwr y Cwmni / Ymddiriedolwr yn Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent
Ar hyn o bryd: Llywydd ac Ymddiriedolwr ar Gymdeithas Brycheiniog ac Amgueddfa Cyfeillion Brycheiniog, (Aelod o Fwrdd Golygyddol y cyfnodolyn hanes sirol, Brycheiniog), Aelod o Bwyllgor Rheoli Archifau Gwent ac Ymddiriedolwr gydag Ymddiriedolaeth Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Aelod o Gymdeithas Archaeolegol Prydain a Chymdeithas Hynafiaethau Cymru.
Cysylltiadau Proffesiynol: Aelod o Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr, Ymgyrchydd Proffesiynol Cofrestredig, Aelod o’r Sefydliad Materion Cymreig a Chymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethau.