Neidio i'r prif gynnwys
Rhai o'n Hymddiriedolwyr Heneb a staff gyda staff academaidd o UCL.

Roedd y mis hwn yn cynnwys ffocws sylweddol ar ymgysylltu allanol a datblygu partneriaeth. Treuliodd Heneb amser yn Llundain fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain, gan gynnwys cyfarfodydd sy’n gysylltiedig â threftadaeth, diwylliant a chyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, manteisiwyd ar ein partneriaeth â Chymdeithas yr Hynafiaethwyr i gynnig darlith archaeoleg fel rhan o ddathliadau Wythnos Cymru. Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar y cloddiadau ar lan y cei canoloesol yn Nhalacharn. Fe’i traddodwyd gan Ken Murphy, a gyflwynwyd gan Carol, ochr yn ochr â Ben Lake (Aelod Seneddol ac aelod o’r Grŵp Archaeoleg Traws-Seneddol). Hefyd yn bresennol roedd Ann Davies, AS Sir Gaerfyrddin, Denise Lewis Poulton a oedd tan yn ddiweddar yn gadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, Carole Souter, Cadeirydd y Gynghrair Treftadaeth, ac amrywiaeth o westeion eraill.

Gwyliwch y cyflwyniad yma

Yn ystod y digwyddiad, cafwyd cyfle i ddiolch i ddau gefnogwr sydd wedi cyfrannu’n hael tuag at ariannu’r cloddiadau a nodwyd uchod, a manteisiwyd ar y cyfle i lansio cynllun Noddwyr newydd ar gyfer Heneb. Rydym yn falch o ddweud bod gennym grŵp bach o Noddwyr eisoes yn dechrau ffurfio, felly edrychwn ymlaen at drefnu rhai cyfleoedd arbennig iddynt ymgysylltu â’n gwaith archeolegol yn ystod y misoedd nesaf.
https://heneb.org.uk/cy/patrons/

Tra oeddem yn Llundain, aethom ati hefyd i ddatblygu’n ffurfiol ein perthynas â Sefydliad Archaeoleg Coleg Prifysgol Llundain lle cynhaliwyd digwyddiad llofnodi ar gyfer ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd. Dewiswyd llofnodi’r dogfennau o dan bortread o Peter Grimes, cyn Brifathro UCL a oedd yn archeolegydd o Gymru a Chadeirydd cyntaf erioed Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ym 1975. Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd yn cael ei oruchwylio gan Arweinydd Cenedlaethol Heneb ar gyfer Rheoli Treftadaeth a bydd UCL yn cynnig MA newydd mewn Rheoli’r Amgylchedd Hanesyddol mewn partneriaeth â Heneb. Y targed yw recriwtio 15 x o fyfyrwyr ar y cwrs ym mis Medi 2027 a bydd pob un yn cael eu lleoli gyda Heneb, ond yn y cynllun peilot eleni bydd 2 x o fyfyrwyr yn dod i weithio gyda ni.

Mae’r ymrwymiadau hyn yn adlewyrchu rhwydwaith cynyddol Heneb o bartneriaethau a’n hymrwymiad i gryfhau’r gwaith o astudio, rheoli a gwerthfawrogiad y cyhoedd o’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru a thu hwnt.

Mwy o Newyddion

Galwad Agored: Ymunwch â Phaneli Cynghori Rhanbarthol Heneb

Mae Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru - yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb gan unigolion a hoffai ymuno â’n Paneli Cynghori…
Photo: L-R Dr Kate Roberts, Cadw; Luke Jenkins, Heneb; Dr Steve Burrow, Amgueddfa Cymru; Dr Rebecca Wragg-Sykes, archaeologist; Heledd Fychan, AS; Denise Lewis-Poulton, National Lottery Heritage Fund; Dr Carol Bell, Heneb; Richard Nicholls, Heneb.

Strategaeth Pum Mlynedd yn y Senedd

Heneb yn Lansio Strategaeth Pum Mlynedd yn Senedd Cymru Dewch i ni ehangu ychydig ar ein lansiad. Ar 29 Ionawr…

Heneb yn Eisteddfod Genedlaethol 2025

Mae Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru yn falch iawn o fod yn cyfrannu at raglen yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a…