
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur fel elusen yn 2006 a phrynodd fferm Mynachlog Fawr yn 2016. Mae’n cael ei rhedeg gan fwrdd o 12 Ymddiriedolwr, o dan arweiniad cadeirydd, gyda sbectrwm eang o arbenigedd lleol a chenedlaethol ym meysydd treftadaeth, twristiaeth, cadwraeth a’r byd academaidd. Nodau’r Ymddiriedolaeth yw diogelu ac adfer pob adeilad, gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy a’r technolegau gorau sydd ar gael; i helpu pobl i ddysgu am dreftadaeth a chadwraeth, materion amgylcheddol ac iaith a diwylliannau Cymru; rhoi croeso cynnes i ymwelwyr, preswylwyr a phobl leol a’u helpu i fwynhau amgylchedd, hanes a diwylliant cyfoethog yr ardal.
Daeth y Sistersiaid i Ystrad Fflur gyntaf o Hendy-gwyn ar Daf ym 1164, wrth chwilio am lle ynysig ond ffrwythlon yn Henfynachlog i arfer eu ffydd a gwneud bywoliaeth. Ail-ddarganfyddwyd yr Abaty gan Rhys ap Gruffudd, tywysog teyrnas y Deheubarth, ym 1184 ar ei safle presennol, a daeth yn ganolfan grefyddol a diwylliannol bwysig. Mae’r Abaty yn nwylo Cadw, ac mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio’n agos gyda nhw, ac ail-agorodd y Ganolfan Groeso yn ddiweddar, sy’n cael ei rhedeg gennym ni.
Cafodd rhan o ffermdy rhestredig Gradd II* Mynachlog Fawr ei hadeiladu’n wreiddiol yn yr unfed ganrif ar bymtheg o adfeilion ffreutur yr Abaty, fel tŷ bonedd, ac yn enghraifft o uchelwyr yn troi rhannau o’r prif adeiladau mynachlogaidd yn anheddau. Yna cafodd ei ailadeiladu fel plasty yn 1670-80. Rydym yn ymgymryd â phrosiectau adfer ac adeiladu mawr dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, ar y tŷ, ac ar adeiladau’r fferm.
Diolch i haelioni noddwyr a chyllidwyr, mae’r Ymddiriedolaeth eisoes wedi adfer dau o adeiladau’r fferm: y Beudy, adeilad rhestredig gradd II, a drawsnewidiwyd yn 2019 yn ofod cymunedol a swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth; a Thŷ Pair, cegin ar wahân, a’r sied drol gyfagos, a adferwyd ac a agorwyd i’r cyhoedd yn 2021 fel Arddangosfa Mynachlog Fawr, yn arddangos dogfennau, gwrthrychau cartref ac offer amaethyddol o’r fferm.
Mae gwaith cloddio archeolegol wedi’u cynnal yn Ystrad Fflur ers ugain mlynedd, ac mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnal cloddfa gyhoeddus i bawb yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf bob blwyddyn. Mae hon yn rhaglen hyfforddi gwbl hygyrch, sy’n cynnwys amrywiaeth eang o dechnegau cloddio ac arolygu archeolegol, ac mae’n denu cyfranogwyr a myfyrwyr archeoleg o bob cwr o’r byd. Mae canfyddiadau cyffrous diweddar o’r gloddfa yn y cwrt sgwâr rhwng y stablau, yr ysgubor a’r Beudy yn cynnwys crochenwaith Môr y Canoldir, darnau arian canoloesol, clesbyn ar gyfer dal llawysgrifau gyda’i gilydd ac, yn arwyddocaol, deunydd sy’n dyddio o’r 10fed ganrif, gan brofi’r awgrym bod safle cysegredig yma ymhell cyn i’r Sistersiaid gyrraedd.
Eleni, bydd ffos gloddio flaenorol yn cael ei hail-agor yn y cae o’r enw ‘Y Fynwent Fawr’. Roedd gwaith gwerthuso cymedrol blaenorol wedi awgrymu bod cloddwaith yn yr ardal hon yn cynrychioli safle hen felin ac ymhlith y canfyddiadau a ganfuwyd roedd darnau o grochenwaith canoloesol, hoelion haearn, gwastraff gwaith haearn a llechi toi. Ychydig o ddeunydd ôl-ganoloesol a ganfuwyd yn y ffos werthuso gychwynnol hon.
Yn 2007, cafodd y ffos ei hail-agor a’i ehangu i’r hyn a gredwyd yn wreiddiol oedd gweddillion pwll olwyn o bosibl, fodd bynnag ystyriwyd mai canlyniad tanio oedd y nodwedd wag hon, oherwydd y siarcol a darnau o haearn, plwm a chopr wedi’u llosgi a ganfuwyd yno. Roedd darganfyddiadau pellach yn cynnwys crochenwaith ysgrafellog canoloesol a slag haearn a deunydd arall wedi’i losgi neu wedi’i danio’n drwm, sy’n dynodi gwaith metel ar raddfa ddiwydiannol a safle hen Felin Ddŵr ganoloesol.
Yn ogystal â gwaith archeolegol ac adfer, mae Ystrad Fflur hefyd yn cynnal cyrsiau, digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol eraill ar hyd y flwyddyn, gan gynnwys ein gŵyl gerdded boblogaidd dros ddau ddiwrnod bob mis Medi. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r gymuned leol, gan gydweithio ar ddigwyddiadau cymunedol fel carnifalau a sioeau, cynnal ymweliadau gan ysgolion a sefydliadau lleol, a darparu gofod i grwpiau cymunedol eu defnyddio.
Rydym hefyd yn bartner yn y Rhaglen Mwyngloddiau Metel, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei darparu ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, i ddiogelu a gwella’r amgylchedd dŵr er budd pobl a bywyd gwyllt drwy sicrhau afonydd glanach a chyfrannu at reolaeth gynaliadwy adnoddau naturiol. Ein rôl yw hybu a datblygu mwynglawdd Bronberllan fel nodwedd o’n rhaglen ymgysylltu ag ymwelwyr, digwyddiadau ac addysg, drwy gynnal gweithgareddau i ysgolion a theithiau cerdded tywys i’r cyhoedd i fyny at y mwynglawdd ei hun, a chynnal prosiect hanes llafar i gasglu atgofion y rhai fu’n gweithio yn y diwydiant y gallent fod wedi’u trosglwyddo i’w disgynyddion.