Skip to main content

Aelodaeth Heneb

Fel Elusen Gofrestredig, mae aelodaeth gyda Heneb hefyd yn helpu i gefnogi’r gwaith hanfodol a wnawn gan gynnwys:

  • Gofalu am yr amgylchedd hanesyddol

  • Darparu allgymorth cymunedol yn y mannau sydd ei angen fwyaf

  • Eiriol dros ddiwylliant a threftadaeth Cymru

  • Gwneud gwaith ymchwil arloesol drwy gloddio

  • Gwarchod arteffactau hanesyddol unigryw

  • Creu miloedd o gofnodion archaeolegol digidol rhad ac am ddim

Cofrestrwch ar gyfer aelodaeth

Mae aelodaeth fisol gyda Heneb yn cynnig amrywiaeth o fuddion cyffrous i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am brosiectau, digwyddiadau a chyfleoedd archaeolegol yn eich ardal chi. 

Haenau Aelodaeth a Phrisiau

Am ddim – £0 y mis

  • Ein cylchlythyr digidol misol gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau a digwyddiadau sydd ar y gweill
  • Cael gwybod ymlaen llaw am ein cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus tymhorol

Aelodaeth Unigol – £4 y mis

  • Pob un o’r buddion am ddim ynghyd â:
  • Cael archebu’n fuan ar gyfer cynadleddau diwrnod archaeoleg
  • Hysbysiad ymlaen llaw am gyfleoedd cloddio
  • Disgownt o 10% ar ddigwyddiadau Heneb
  • Darlithoedd a gweminarau i aelodau yn unig

Aelodaeth ar y Cyd – £7 y mis

  • Pob un o fuddion aelodaeth unigol i ddau berson

Aelodaeth Teulu – £8 y mis

  • Pob un o fuddion aelodaeth unigol i 2 oedolyn a hyd at 6 o blant (16 oed ac iau) ynghyd â:
  • Hysbysiad ymlaen llaw am weithgareddau a gweithdai i’r teulu

Aelodaeth Myfyriwr – £0 y mis

  • Pob un o fuddion aelodaeth unigol i fyfyrwyr

Sylwer: mae angen cyfeiriad e-bost coleg neu brifysgol e.e.; [email protected]/ [email protected]