Neidio i'r prif gynnwys

Heneb: Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru yn 2024 drwy uno pedair ymddiriedolaeth archaeolegol ranbarthol Cymru—Clwyd-Powys, Dyfed, Morgannwg-Gwent, a Gwynedd. Am dros 50 mlynedd, bu’r ymddiriedolaethau hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddiogelu treftadaeth archaeolegol Cymru, ac mae Heneb yn parhau â’r gwaddol hwn fel sefydliad annibynnol sy’n ymroi i ddiogelu amgylchedd hanesyddol cyfoethog Cymru, ymchwilio iddo a’i hyrwyddo.

Ein cenhadaeth yw meithrin dealltwriaeth ddyfnach o orffennol Cymru, dathlu ei hanesion diwylliannol amrywiol, a sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu cysylltu â’u treftadaeth.

Drwy ymchwil arloesol, ymgysylltu cymunedol cynhwysol, a phartneriaethau cydweithredol, mae Heneb yn gweithio i wneud archaeoleg yn hygyrch ac yn berthnasol i bawb.

Ein Pwrpas

Mae Heneb yn bodoli i ysbrydoli dealltwriaeth ddyfnach o dreftadaeth Cymru. Rydym yn gweithio i sicrhau bod tirwedd archaeolegol Cymru yn cael ei gwarchod a’i bod yn hygyrch i bawb, gan feithrin ymdeimlad o hunaniaeth ddiwylliannol a rennir a balchder yn hanes y genedl.

Beth Rydyn Ni’n Ei Wneud

Mae Heneb yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau archeolegol a threftadaeth. Mae ein gwaith yn cynnwys:

Rheoli’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol

Rydym yn goruchwylio ac yn cadw cofnodion o safleoedd archaeolegol a thirweddau hanesyddol ledled Cymru, gan sicrhau bod gwybodaeth gywir ar gael ar gyfer ymchwil, cynllunio a budd y cyhoedd.

Cloddfeydd ac Arolygon

Mae ein timau’n cynnal cloddfeydd ac arolygon archaeolegol i ddatgelu darganfyddiadau newydd a gwarchod safleoedd sydd dan fygythiad.

Ymchwil a Chyhoeddiadau

Rydym yn cynhyrchu adroddiadau manwl ar ein canfyddiadau ac yn rhannu ein gwybodaeth drwy gyhoeddiadau, gan sicrhau bod archaeoleg Cymru yn cael ei chofnodi a’i hastudio am flynyddoedd i ddod.

Ymgysylltu â’r Gymuned

Rydym yn cynnal digwyddiadau, diwrnodau agored a rhaglenni addysgol i gynnwys pobl o bob oed mewn archaeoleg, gan feithrin ymdeimlad o berchnogaeth a chysylltiad â’u treftadaeth leol.

Ymgynghori a Chynghori

Mae Heneb yn darparu arweiniad arbenigol ar gynllunio a rheoli treftadaeth, gan helpu i sicrhau bod datblygiadau modern yn cyd-fynd â thirweddau hanesyddol Cymru.

Ein Gweledigaeth

Mae datgelu, gwarchod a rhannu archaeoleg gyfoethog Cymru wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n credu y dylai archaeoleg fod yn rhan fyw o dirwedd ddiwylliannol Cymru, gan gysylltu cymunedau â’u gorffennol ac ysbrydoli ymdeimlad o hunaniaeth gyffredin.

Ein gweledigaeth yw creu dyfodol lle mae treftadaeth nid yn unig yn cael ei gwarchod ond yn cael ei chofleidio’n frwd gan bawb.

Drwy ein gwaith, rydym yn ymdrechu i:

  • Promote

    Promote archaeology as a tool for education and community identity
  • Ensure

    Ensure the preservation of Wales’ historic sites
  • Inspire

    Inspire the public to engage with their history
  • Support

    Support sustainable development that respects and integrates Wales’ heritage

Ein Hymrwymiad

Mae Heneb wedi ymrwymo i ddiogelu gorffennol archaeolegol Cymru a hyrwyddo pwysigrwydd hanes i gymdeithas fodern.

Ein Gwaddol

Mae Heneb yn adeiladu ar waith y pedair ymddiriedolaeth flaenorol, ac mae pob un ohonynt wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o siapio ein dealltwriaeth o archaeoleg Cymru dros y pedwar degawd diwethaf.

Gosododd y cyn ymddiriedolaethau y sylfeini ar gyfer diogelu safleoedd allweddol a datblygu cysylltiadau cryf â chymunedau lleol.

Fel Heneb, rydym yn cario’r etifeddiaeth hon ymlaen, gan gyfuno arbenigedd rhanbarthol â chyrhaeddiad cenedlaethol i sicrhau bod archaeoleg Cymru yn parhau i ffynnu.

Ein Symbol: Plac Efydd Moel Hiraddug

Mae plac efydd Moel Hiraddug, a ddarganfuwyd yn 1872 ar fryngaer yn Sir y Fflint, yn symbol ar gyfer Heneb.

Mae’r arteffact hwn, sy’n dyddio i ddechrau’r ganrif 1af CC, yn ymgorffori hanes dwfn y rhanbarth ac yn adlewyrchu cenhadaeth Heneb i uno arbenigedd y pedair ymddiriedolaeth ranbarthol yn un sefydliad.

2024-25 IN NUMBERS

7,458

in-person engagements

103

walks, talks, events & exhibitions

353

archaeological projects undertaken

142,839

new and enhanced HER records

434,037

HER Records available to the public

502

HER enquiries

22,321

planning applications screened

1,181

heritage management consultations

31,118

followers on social media